Buddion Aelodaeth

Rydych chi, ein haelodau, yn ffurfio ffederasiwn Cymreig o wasanaethau arbenigol sy’n gweithio fel rhan o ffederasiwn Cymorth i Ferched ar draws y DU. Gyda’n gilydd, rydym ni’n darparu llais cyfunol cryf ar y materion sy’n ein poeni fwyaf yn ein gwaith i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod.

Mae buddion Aelodaeth Lawn Cymorth i Ferched Cymru yn cynnwys:

  • Cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygiadau polisi rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae cyfleoedd yn cynnwys:
    • Cyfarfodydd aelodau rhanbarthol a chenedlaethol rheolaidd i gasglu adborth ar faterion polisi, deddfwriaethol a strategaethol perthnasol.
    • Cyfarfodydd grwpiau gorchwyl a gorffen thematig i gasglu tystiolaeth ac adborth i hysbysu Llywodraeth Cymru (e.e. ar faterion cyllid, lle rydym ni’n gweithio i lywio datblygu model ar gyfer cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol).
  • Diweddariadau a chylchlythyrau sy’n darparu gwybodaeth am ein gwaith, am bolisi ac ymchwil sy’n berthnasol i’r sector, pecynnau cymorth a chanllawiau.
  • Cyfleoedd i gyfrannu i ymgyrchoedd cenedlaethol a rhyngwladol, wedi’u llywio gan brofiad ac anghenion ein gwasanaethau arbenigol a’n goroeswyr, a mynediad at rwydweithiau a deunydd ymgyrchu.
  • Cyngor a gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau arbenigol ac arferion gorau sy’n dod i’r amlwg yn y sector, gan gynnwys cymorth i broffilio’r gwaith o ddarparu eich gwasanaeth yn genedlaethol
  • Y cyfle i gyfrannu at ddatblygu a chyflwyno model ‘Newid sy’n Para’ ar gyfer ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Gwybodaeth a chymorth ymarferol ynghylch materion Adnoddau Dynol a datblygu busnes gan arweinwyr AD a Datblygu Busnes Cymorth i Ferched Cymru, gyda mynediad at gymorth pellach ar gyfradd ymgynghori ostyngol.
  • Mynediad i wasanaeth y tu allan i oriau a dargyfeirio galwadau am ddim i Linell Gymorth Byw Heb Ofn Cymru, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu gan Cymorth i Ferched Cymru.
  • Cydnabyddiaeth fel Aelod Llawn yn unol â’n Memorandwm a’n Herthyglau Cymdeithasu a hawliau pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; caiff isafswm o 4 lle eu cadw ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer Aelodau Llawn.
  • Cyngor a chymorth un i un ar ganllawiau polisi ac ymarfer, a mynediad at gymorth er mwyn helpu i ddatblygu gallu a chynaliadwyedd eich gwasanaethau.
  • Y cyfle i ymuno â Cymorth i Ferched Cymru mewn partneriaeth genedlaethol wedi’i chydlynu er mwyn darparu gwasanaethau pan fydd cyfleoedd yn codi ac yn amodol ar anghenion ein haelodau a’n goroeswyr (e.e. Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol).
  • Cymhwystra i wneud cais am achrediad cenedlaethol, fel aelod o Cymorth i Ferched Cymru, drwy Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwasanaethau arbenigol.
  • Y cyfle i gyfrannu at y gwaith o ddiwygio cynllun busnes strategol tair blynedd a blaenoriaethau gweithredu blynyddol Cymorth i Ferched Cymru.
  • Buddion ariannol drwy ostyngiadau grŵp wedi’u negodi ar gyfer aelodau e.e. yswiriant (mae Polisi Yswiriant Lloches Arbenigol ar gael i’n haelodau drwy DE Ford Insurance Brokers sy’n cynnwys mynediad i wefan Iechyd a Diogelwch bwrpasol a chyngor dros y ffôn am ddim) a gwasanaeth rheoli achosion a systemau cofnodi data (e.e. OASIS) ar-lein.
  • Rhwydwaith i Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwyr rannu syniadau ac arferion mewn perthynas â gwaith sy’n ymwneud â llywodraethu, datblygu strategol a gwaith partneriaeth, gyda chefnogaeth Prif Weithredwr Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru.
  • Mynediad at adroddiadau dadansoddi data rhanbarthol a chenedlaethol i gefnogi asesiadau o anghenion lleol, datblygiadau strategol a chomisiynu, datblygu busnes, a chodi arian.
  • Mynediad gostyngol i hyfforddiant arbenigol ac achrededig.
  • Mynediad am ddim a mynediad gostyngol, gyda blaenoriaeth archebu, i raglen o seminarau, gweminarau a digwyddiadau, a’r cyfle i gefnogi cynlluniau cyfathrebu cenedlaethol.
  • Defnydd o logo Cymorth i Ferched Cymru (ar gyfer aelodau llawn yn unig) i ddangos eich cysylltiad â Cymorth i Ferched Cymru.

Caiff aelodaeth ei hadnewyddu yn flynyddol.

Canfod Swyddi Elusennol – Cynnig i Aelodau

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyda Canfod Swyddi Elusennol, i gyd-fynd ag ail-lansio ein gwefan genedlaethol newydd a fydd yn cynnwys adran recriwtio benodol ar gyfer swyddi gydag elusennau trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yng Nghymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru yn gyffredinol.

Llwyfan swyddi ar-lein yn unig ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru yw Canfod Swyddi Elusennol. Mae modd ei ddefnyddio ar gyfrifiadur pen desg, symudol a thabled sy’n golygu bod swyddi’n hawdd eu gweld a’u cyrchu ar bob dyfais. Mae Canfod Swyddi Elusennol yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dargedu unigolion yn ôl oed, rhyw a demograffeg gan sicrhau bod yr ymgeiswyr iawn yn cael eu teilwra i’ch swyddi chi. Mae’n cyrraedd dros 30,000 o bobl yng Nghymru bob wythnos drwy Facebook ac yn derbyn 14,000 argraff yr wythnos drwy Twitter a chaiff ei optimeiddio drwy’r holl lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol eraill. Ar hyn o bryd mae dros 2000 o unigolion wedi cofrestru ar gyfer hysbysiadau swyddi Canfod Swyddi Elusennol, ac mae’n cael budd o hyrwyddo parhaus drwy lwyfan Android.

Gall Cymorth i Ferched Cymru gynnig cyfradd ostyngol arbennig i’n haelodau o £135* yn unig am bob swydd (fel arfer mae’n £150) i hysbysebu ar lwyfan Canfod Swyddi Elusennol sy’n cysylltu â gwefan Cymorth i Ferched Cymru. Mae’r costau’n is ar gyfer swyddi niferus, a bydd y swyddi’n parhau’n fyw ar y ddau safle am faint bynnag o amser sydd ei angen.

I drafod sut y gallai Canfod Swyddi Elusennol eich helpu, cysylltwch â Matt Bates ar [email protected] neu 07771 920370 neu â [email protected] neu ar 07557 132390.

 

Adran Aelodau