Mae sicrhau bod goroeswyr yn derbyn y gefnogaeth gywir yn ymrwymiad hirdymor. Dyma sut y gwnaethom ni ein rhan yn 2022/23:
- Fe wnaethom ni gefnogi ein sefydliadau sy’n aelodau drwy’r storm a adawyd gan Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
- Fe wnaethom ni alluogi gwasanaethau VAWDASV ledled Cymru i ddangos gwerth cymorth arbenigol i oroeswyr.
- Fe wnaethom ni gyflwyno hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar wybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer ymgysylltu â VAWDASV.
- Fe wnaethom ni ddarparu cyngor a chymorth cyfrinachol 24/7 am ddim drwy’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.
Helpu ein haelodau drwy'r storm a adawyd gan Covid-19
Yn 2022/23, wrth i’r pandemig gwympo ymhellach y tu ôl i ni, cafodd y galw syfrdanol am ein gwasanaethau aelodau ei ddwysau gan yr argyfwng costau byw. Gan fod ein gwasanaethau wedi bod yn mynd i’r afael â straen ariannol hyn, rydym ni wedi parhau â’n cyfarfodydd aelodaeth i helpu i nodi unrhyw faterion yn y sector, i gynnig cefnogaeth, a chanolbwyntio ar feysydd gwaith penodol.
Mae’r cyfarfodydd hyn wedi cynnwys rhai sy’n cael eu gyrru gan gynnwys ar bynciau o ddiddordeb dynodedig, megis Prosiect Rhyddid Dogs Trust, y Ddeddf Rhentu Cartrefi a chefnogi goroeswyr gyda NRPF.
Yn 2022-23, fe wnaethom lwyddo i sicrhau cyfanswm o £2,512,144 o ffynonellau, ymddiriedolaethau a sefydliadau statudol er budd ein haelodaeth o wasanaethau arbenigol yn uniongyrchol. Fe wnaeth y cyllid hwn alluogi cyflwyno gweithgareddau â ffocws Newid sy’n Para mewn cymunedau lleol, hyfforddiant oedd yn defnyddio arbenigedd aelodau, a mynediad at gynhyrchion urddas mislif i oroeswyr. Mae’r holl gyllid a gafwyd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod cyfnod o heriau parhaus i’n sector.
Nid oes dim yn bwysicach i ni na chynhwysiant a hygyrchedd, felly eleni rydym ni wedi ehangu waith ein swyddog ymgysylltu cymunedol ar gyfer y gymuned b/Byddar i ddatblygu sesiwn datblygu ymarfer o’r enw ‘Ymateb i Oroeswyr Byddar’ (PDS).
Mae’r sesiwn hon wedi canolbwyntio ar ddeall anghenion a unigryw goroeswyr Byddar, yn ogystal â helpu i wneud staff yn ymwybodol o’r rhwystrau cyffredin i gymorth iddynt. Mae wedi archwilio sut i gynyddu hygyrchedd gwasanaethau i oroeswyr byddar, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd ar gael. Nid ydym am i unrhyw oroeswyr gael eu gadael ar ôl, felly rydym ni wedi bod yn falch o helpu i ddatblygu ein pecyn cymorth b/Byddar a’r sesiwn hon i gefnogi hygyrchedd i bawb ymhellach.
Ochr yn ochr â’r gwaith ar wneud gwasanaethau arbenigol yn fwy hygyrch, rydym ni’n cydnabod nad yw’n bosibl trafod cam-drin domestig heb fynd i’r afael â mynediad at dai diogel. Dyma pam yr ydym ni wedi neilltuo amser i ymateb i Ddeddf Rhentu Cartrefi (RHA) Llywodraeth Cymru, gan sefydlu fforwm misol i drafod y pwnc hwn, a thynnu sylw at ei effaith negyddol yn ein briff brys RHA. Roedd mor bwysig i ni ein bod ni wedi creu PDS ar ei gyfer, fel y gallem ni drafod yr effeithiau mae’n eu cael ar oroeswyr a gwasanaethau arbenigol. Roedd hyn yn cynnwys diweddaru staff ar ein sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau eithriad ar gyfer llety lloches, a llawer o bynciau eraill.
Nid yw mynd i’r afael â thrais rhywiol a chamfanteisio yn rhwymedigaeth yn unig, mae’n hanfodol ar gyfer cymdeithas fwy diogel a thecach. Fe wnaeth Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan ar gyfer Merched sydd wedi Profi Camfanteisio’n Rhywiol gyfarfod 4 gwaith yn 2022/23 i dynnu sylw at hyn. Arweiniodd hyn at ddigwyddiad allweddol, ‘Diffinio Camfanteisio’n Rhywiol ar Oedolion: Lleihau stigma a chodi ymwybyddiaeth’ a roddodd gyfle i ni lwyfannu ein haelodau sy’n darparu cefnogaeth benodol i’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol neu sy’n profi camfanteisio rhywiol. Mynychodd nifer o asiantaethau a gwasanaethau ac roedd yn caniatáu i ni ymgorffori lleisiau goroeswyr trwy gydol y digwyddiad. Rydym ni bellach wedi sefydlu fforwm gyda’r nod o barhau i ganoli trais rhywiol yn ein gwaith.
Dangos gwerth gwasanaethau arbenigol
Rydym ni’n deall manteision gwasanaethau arbenigol i oroeswyr, ac rydym ni am i bob gwasanaeth ddarparu’r gofal o’r ansawdd gorau i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chamdriniaeth. Mae ein Safonau Ansawdd Gwasanaethau Cenedlaethol (NQSS) yn grymuso darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i ddangos eu hymrwymiad i ddarparu cymorth o ansawdd uchel. Eleni, rydym ni wedi parhau i symud ymlaen â NQSS trwy ddatblygu llawlyfr aelodau Panel NQSS i gynorthwyo ein haelodau i ennill NQSS. Ar ben hynny, ysgrifennodd Pennaeth Gwasanaethau ac Ymgysylltu â Goroeswyr WWA at gomisiynwyr i dynnu sylw at sut mae ein safonau’n gwella’r ffordd y mae ein safonau’n gwella’r ffordd y darperir gwasanaethau yn gyffredinol.
Rhaid i sefydliadau adnewyddu eu marciau ansawdd NQSS ac IAQF bob tair blynedd. Yn 2022/23 enillodd 2 aelod achrediad llwyddiannus, gyda 7 o’n gwasanaethau aelodau yn dal NQSS drwy basio’n llawn neu’n amodol erbyn diwedd y flwyddyn.
Llongyfarchiadau enfawr i CAHA, Calan, Cymorth i Ferched Caerdydd, CarmDAS, Cyfannol, Cymorth i Ferched Abertawe a Thrive!
Darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol
Mae ein Canolfan Hyfforddi Ragoriaeth yn darparu cyrsiau hyfforddi achrededig a heb eu hachredu a ddarperir gan hyfforddwyr arbenigol, mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol. Yn 2022/23, fe wnaethom ni hyfforddi dros 2,250 o ddysgwyr gyda 30 o wahanol gyrsiau, sy’n gynnydd o 32% ers y llynedd. Gan ein dysgwyr:
- fe wnaeth 95% o’r dysgwyr raddio’r cwrs cyffredinol yn gadarnhaol.
- byddai 96% o ddysgwyr yn argymell y cwrs i eraill.
- byddai 97% o ddysgwyr yn ystyried eu gwybodaeth yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’ ar ôl mynychu hyfforddiant.
Mae gwrando ar ein gwasanaethau aelodau arbenigol yn allweddol i’n llwyddiant, felly eleni fe wnaethom ymateb drwy ddatblygu tri chwrs newydd i ateb eu ceisiadau. Gall y rhain ymhelaethu ar feysydd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, neu ar bynciau mae aelodau’n teimlo y gallent fod â gwell dealltwriaeth ohonynt. Y rhain yw:
- Sut i Eirioli’n Effeithiol ar gyfer Goroeswyr VAWDASV
- Croestoriadedd mewn Arweinyddiaeth
- Deall Cam-drin Economaidd.
Mae ein tîm hyfforddi ymroddedig yn cyrraedd cynulleidfa amrywiol ac yn darparu ein cyrsiau i amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaeth prawf. Mae ein cwrs Materion Cam-drin Domestig yn cyrraedd dros 650 o heddweision, tra bod ein cwrs Sgiliau Ymatebol o Ran Rhywedd ac Ystyriol o Drawma yn cyrraedd bron i 400 o ddysgwyr.
Mae sicrhau bod yr heddlu a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn gallu ymateb yn effeithiol ac yn empathig i VAWDASV yn hanfodol i wella diogelwch corfforol ac emosiynol goroeswyr tra gellir gwneud cyfiawnder.
Rydym ni wedi ymrwymo i rymuso goroeswyr a’r gymuned ehangach gyda’r adnoddau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Testament i werth ein cyrsiau hyfforddi yw bod 75% o oroeswyr hunan-adnabod yn credu bod ein cyrsiau’n darparu’r offer cywir i asiantaethau wella eu hymateb i oroeswyr. Mae hyn yn tynnu sylw at yr effaith wirioneddol mae Cymorth i Ferched Cymru yn ei chael wrth arfogi gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i fynd i’r afael ag anghenion goroeswyr yn well.
Darparu cefnogaeth 24/7 anhysbys, rhad ac am ddim
Bron i 20 mlynedd yn ôl, fe wnaethom ni sefydlu’r llinell gymorth genedlaethol gyntaf ar gyfer VAWDASV. Heddiw, mae ein gwasanaeth llinell gymorth wrth wraidd ein cenhadaeth, gyda 2022/23 y flwyddyn gyntaf o dan ein systemau trin galwadau a rheoli data newydd. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu data manylach i wella ein gwasanaethau ymhellach, yn ogystal ag ymateb i ymholiadau ad hoc mewn amser real.
Mae’r llinell gymorth yn parhau i fod yn hynod brysur, wrth i’n heiriolwyr gyfathrebu â mwy na 34,000 o gysylltiadau y flwyddyn, gan gynnwys dros 15,000 o oroeswyr a bron i 10,000 o weithwyr proffesiynol.
Mae ein galwadau yn cynyddu mewn cymhlethdod, ac eleni yn dangos yr angen clir am adnoddau ychwanegol. Rhwng mis Mawrth 2022 a mis Ebrill 2023, mae ein llinell gymorth wedi gweld cynnydd enfawr o 90% yn yr amser sy’n cael ei dreulio yn siarad â chysylltiadau.
Mae’r twf sylweddol hwn yn hyd y sgyrsiau yn dangos y galw enfawr na all ein gwasanaethau arbenigol ddal i fyny ag ef, gyda’r angen am amodau uwch ar gyfer cymorth ac ymyrraeth.
Mae’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn fwy na llinell ffôn yn unig, er bod y rhan fwyaf o’n cysylltiadau yn alwadau ffôn, rydym ni hefyd wedi derbyn:
- Dros 2,800 o sgyrsiau gwe
- Bron i 900 o negeseuon e-bost
- Mwy na 650 o negeseuon testun
Rydym ni wedi ymrwymo i ateb eich galwad ffôn cyn gynted â phosibl. Mae 95% o ddefnyddwyr gwasanaeth yn aros llai na 30 eiliad am ymateb gan ein heiriolwyr llinell gymorth.
Rydym ni’n cydnabod y gall estyn allan am gymorth fod yn gam brawychus, ond rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich mynediad at gymorth mor syml â phosibl. Mae’r adborth dienw y mae defnyddwyr y gwasanaeth yn ei ddarparu yn dangos hyn, gyda 440 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn rhoi adborth i’r llinell gymorth dros y flwyddyn ariannol hon.
- Dywedodd 86% eu bod nhw’n teimlo’n fwy diogel.
- Roedd 89% yn teimlo gwelliant i’w lles emosiynol.
- Dywedodd 97% eu bod nhw wedi derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.