Byw Heb Ofn: Y bobl y tu ôl i’r llinell gymorth

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, a reolir gan Cymorth i Ferched Cymru, yn darparu cymorth i unrhyw un sydd wedi profi, neu sydd yn profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, neu drais rhywiol, neu i unrhyw un sy’n pryderu am ffrind neu berthynas. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae tîm o adfocadau, sydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel, yn rheoli’r llinell gymorth gan gynnig cyngor arbenigol, tosturiol a chyfrinachol. Mae adfocadau’r llinell gymorth yno i ti, bob amser.

Yn y blog hwn, mae gwirfoddolwyr y llinell gymorth yn rhannu mythau cyffredin am y gwasanaeth, ac yn cynnig gwybodaeth i’w chwalu.

Mae’r holl fanylion personol wedi’u newid i amddiffyn unigolion rhag cael eu hadnabod.

 

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn fy nghredu gan fod fy stori’n ymddangos mor annhebygol”.

Un o agweddau pwysicaf rôl adfocad yw creu lle diogel i oroeswyr rannu eu profiadau, gan wybod y gallant rannu cymaint neu gyn lleied ag y maent yn gyfforddus ag ef.

Nid yw’n anghyffredin i deimlo pryder am rannu stori drawmatig, ond bydd adfocad yn gwrando, ac yn credu, bob amser. Bydd galwyr yn cael eu clywed ac yn cael cynnig y cymorth neu’r cyngor sydd ei angen arnynt heb farnu.

 

“Gan nad yw fy mhartner yn fy nharo, doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hyn yn cael ei drin fel achos o gam-drin domestig”.

Gall cam-drin domestig a thrais fod ar sawl ffurf, boed yn seicolegol megis rheolaeth orfodol, yn ariannol neu’n gorfforol.

Nid oes ‘blwch i’w dicio’ pan mae’n dod i brofiad camdriniol. Dim ots pa fath o gam-driniaeth y mae rhywun wedi’i ddioddef, gallant gael cymorth, gwybodaeth, neu gyngor gan Byw Heb Ofn.

 

“Digwyddodd y gamdriniaeth flynyddoedd yn ôl a doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn wneud dim yn ei gylch nawr”.

Bydd rhai pobl yn gofyn am help yn syth, tra bydd eraill angen peth amser i brosesu a theimlo’n barod i chwilio am gymorth. Nid oes yna ‘amser iawn’.

Dim ots pryd brofodd rhywun gam-drin domestig neu drais, mae’r llinell gymorth ar gael i roi cyngor a chymorth bob amser.

 

“Dwi’n cael trafferth wrth gael mynediad at wasanaethau eraill ac weithiau’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu yn y Saesneg. Doeddwn i heb sylweddoli bod gan y Llinell Gymorth fynediad ar unwaith at gyfieithydd er mwyn ateb fy anghenion.”

Ni ddylai iaith fod yn rhwystr i gael mynediad at gymorth hanfodol, a dyna pam fod Byw Heb Ofn yn cynnig cymorth ym mhob iaith. Gan ddefnyddio Language Line, mae Byw Heb Ofn yn darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor yn yr iaith y mae’r galwr/cysylltydd fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Darparwch rif ffôn a caiff yr alwad ei dychwelyd gyda chyfieithydd.

 

“Roeddwn ofn cael fy adnabod ond cefais sicrwydd y gallwn aros yn ddienw heblaw fod pryder ynghylch fy lles neu ddiogelwch”.

Mae’r llinell gymorth yn gwbl gyfrinachol, sy’n golygu bod unrhyw wybodaeth a rennir ag adfocad yn cael ei chadw’n breifat. O ran y camau nesaf, mae adfocadau eisiau grymuso pobl i helpu eu hunain, felly efallai y byddant yn trafod opsiynau, ond nid oes unrhyw orfodaeth i wneud perderfyniadau dros y ffôn.

Diogelwch yw’r brif flaenoriaeth. Er bod pob galwad yn gyfrinachol, mae un eithriad, os yw bywyd mewn perygl dybryd neu os oes plentyn mewn perygl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai’r awdurdodau’n cael eu hysbysu i sicrhau diogelwch y person sydd mewn perygl. Cei dy hysbysu a’th gefnogi’n llwyr os bydd angen yr ymyriad hwn.

 

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod y llinell gymorth ar gyfer pobl heblaw goroeswyr cam-drin domestig hefyd”.

Mae ein adfocadau wedi’u hyfforddi i gefnogi pobl mewn sawl ffordd, dim ots pa fath o drais, cam-drin neu aflonyddu y maent wedi’i brofi. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drais rhywiol, stelcian ac aflonyddu. Nid oes angen i neb fod yn ‘gymwys’ i geisio cymorth.

 

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod rhywun yno bob amser i siarad â nhw, hyd yn oed gyda’r nos neu ar benwythnosau”.

Os wyt ti wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol, neu’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin, gelli ffonio Byw Heb Ofn unrhyw bryd.

Mae am ddim, ac ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae adfocadau profiadol y llinell gymorth yn sicrhau y cei ymateb cyfeillgar, cefnogol a chydymdeimladol, a gallant drafod dy bryderon a darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth.

 

Gall cam-drin ddigwydd i unrhyw un ac nid yw byth yn fai arnat ti. Bydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yno i ti pryd bynnag y byddi ei hangen.

Siarada â Byw Heb Ofn am gymorth a chyngor cyfrinachol 24/7 am ddim.

Ffonia 0808 80 10 800

Tecstia 0786 007 7333

E-bostia [email protected]

Cer i www.llyw.cymru/bywhebofn