Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol

TW: Cam-drin rhywiol a thrais

Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol: 5ed – 11eg Chwefror 2024

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol yn rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau gynnal sgyrsiau am y materion pwysig hyn.

Eleni, fe’i cynhelir rhwng y 5ed a’r 11eg o Chwefror.

Roeddem am gymryd eiliad i esbonio ychydig mwy am yr wythnos, pam ei bod yn bodoli a pham ei bod yn bwysig.

Hanes

Crëwyd yr wythnos i gydnabod profiadau goroeswyr a helpu i greu cymdeithas lle na chaiff trais rhywiol o unrhyw fath ei oddef.

Mae hyn wedi arwain at ymgyrch flynyddol sy’n helpu i gadw sgyrsiau’n fyw a thynnu sylw at bwnc nad yw’n cael ei grybwyll yn aml mewn cymdeithas. Mae’r wythnos wedi ennill momentwm dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth i wahanol sefydliadau, actifyddion ac eiriolwyr ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.

Cyn trafod pwysigrwydd yr wythnos, mae’n hanfodol deall cwmpas trais rhywiol. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae un o bob tair menyw yn fyd-eang wedi profi trais corfforol neu rywiol gan bartner agos, neu drais rhywiol gan rywun nad yw’n bartner yn ystod eu hoes.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, o 2022-23 bu 582 o erlyniadau yng Nghymru am droseddau rhyw, heb gynnwys treisio. Mae’n bwysig cofio hefyd bod ystadegau’n parhau i fod yn sgiw oherwydd diffyg adrodd trais rhywiol yn ogystal â phryder wrth gofrestru achosion. Fodd bynnag, mae’r ystadegau hyn yn pwysleisio’r angen dybryd i fynd i’r afael â’r mater a chreu amgylchedd lle mae goroeswyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i siarad.

Pam fod yna wythnos ddynodedig?

Mae’r wythnos yn creu cyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed, ond mae hefyd yn cydnabod y gwaith sydd ei angen o hyd i frwydro yn erbyn trais rhywiol.

Mae’r wythnos yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd, rhannu adnoddau, ac mae’n darparu man diogel i bobl gynnal sgyrsiau na fyddai ar adegau eraill, o bosibl, yn codi’n naturiol mewn sgwrs.

Mae cam-drin rhywiol neu drais rhywiol yn brofiad hynod ynysig. Pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth i oroeswyr, mae’n normaleiddio rhannu profiadau, yn rhoi hyder i bobl ddod ymlaen, ac yn helpu mwy o bobl i ddeall y camau y gallant eu cymryd i ddileu trais rhywiol.

Llywio drwy’r haenau cymhleth o drais rhywiol:

Er mwyn deall natur gymhleth trais rhywiol mae’n bwysig amlygu rôl croestoriadedd. Gan gydnabod amrywiaeth profiadau dynol, mae croestoriadedd yn pwysleisio bod unigolion yn wynebu heriau unigryw yn seiliedig ar groestoriadau eu hunaniaeth, megis hil, rhyw, rhywioldeb, a statws economaidd-gymdeithasol. Mae’r lens hon yn ein galluogi i ddeall nad yw effaith trais rhywiol yn unffurf; mae’n amrywio ar draws gwahanol gymunedau a grwpiau. Yn ystod yr wythnos hon, rhaid inni ystyried yn fwriadol y ffactorau croestoriadol sy’n dylanwadu ar fregusrwydd a gwydnwch unigolyn yn wyneb trais rhywiol.

Mae’r wythnos hon yn llwyfan nid yn unig i amlygu lleisiau goroeswyr ond hefyd i fynd i’r afael â’r heriau unigryw a wynebir gan gymunedau ymylol, gan sicrhau bod ein hymdrechion ymwybyddiaeth, addysg ac eiriolaeth yn groestoriadol. Drwy gofleidio’r fframwaith hwn, rydym yn cyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynhwysol o drais rhywiol, gan feithrin amgylchedd lle mae profiadau’r holl oroeswyr yn cael eu dilysu, ac mae ein hymateb ar y cyd yn sensitif i’r ffactorau amrywiol sy’n llywio effaith trais rhywiol ar wahanol unigolion heb adael neb ar ôl.

Sut allai gymryd rhan?

Nid cyfrifoldeb goroeswyr yn unig yw mynd i’r afael â thrais rhywiol ond dyletswydd ar y cyd a rennir gan gymdeithas gyfan.

Mae’r wythnos hon yn galw arnom i archwilio ein hagweddau, herio stereoteipiau niweidiol, a chymryd rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn trais rhywiol. Drwy feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd, rydym yn cyfrannu at ddiwylliant lle mae pawb yn teimlo’n atebol am greu byd sy’n rhydd o hualau trais rhywiol.

Yn ystod yr wythnos, cynhelir nifer o ddigwyddiadau personol ac ar-lein. Chwiliwch am sefydliadau, elusennau, ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol sy’n cynnal digwyddiadau, sgyrsiau ac adnoddau.

Mae yna hashnod #NidYwnOK i’w ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae adnoddau ar gael ar wefan Cymorth i Ferched Cymru bob amser, yn ogystal â chymorth drwy linell gymorth Byw Heb Ofn.

Mae cefnogaeth ar gael bob amser.

 Mae goroeswyr yn aml yn ysgwyddo pwysau trawma mewn tawelwch, o dan faich stigma cymdeithasol. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol yn pwysleisio pwysigrwydd creu mannau diogel lle mae goroeswyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu credu a’u cefnogi.

Os wyt ti, neu rywun rwyt yn ei adnabod, wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol, neu unrhyw fath arall o drais yn erbyn menywod a phlant, gelli ffonio Byw Heb Ofn.

Mae’r llinell gymorth am ddim, ac ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae eiriolwyr profiadol y llinell gymorth yn sicrhau y byddi’n derbyn ymateb cyfeillgar, cefnogol a chydymdeimladol, a gallant drafod dy bryderon a darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth.

Gall cam-drin ddigwydd i unrhyw un.

Siarada â Byw Heb Ofn am gymorth a chyngor cyfrinachol 24/7 am ddim.

Ffonia 0808 80 10 800

Tecstia 0786 007 7333

Ebostia [email protected]

Cer i www.llyw.cymru/bywhebofn