Llinell Gymorth Byw Heb Ofn deunyddiau hyrwyddo

Gall Cymorth i Ferched Cymru roi eitemau hyrwyddo i chi a’ch sefydliad ar gyfer Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae’r deunyddiau hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r llinell gymorth sy’n darparu gwybodaeth a chymorth hanfodol i oroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod.

Mae pecynnau enghreifftiol yn becynnau safonol o ddeunyddiau hyrwyddo Llinell Gymorth Byw Heb Ofn sydd yn rhad ac am ddim.

Mae’r pecynnau hyn yn cynnwys yr eitemau canlynol:

  • Posteri yn Gymraeg/Saesneg, oni nodir fel arall
  • Sticeri yn Gymraeg/Saesneg, oni nodir fel arall
  • Cardiau busnes yn Gymraeg/Saesneg, oni nodir fel arall
  • Pen
  • Aroleuydd
  • Olew gwefus
  • Cardiau coffi
  • Dalen o sticeri cod bar
  • Cylch allweddi

Os hoffech chi becyn sampl, defnyddiwch y ffurflen archebu.

Gallwn hefyd gyflenwi swm cyfyngedig o adnoddau eraill am ddim, felly cysylltwch â ni gydag unrhyw ofynion eraill: [email protected].

Cliciwch yma i weld y Catalog Deunyddiau Hyrwyddo Byw Heb Ofn.

 

Ffurflen Archebu Byw Heb Ofn