Ymddiriedolwyr a Phrif Swyddog Gweithredol

Ein Bwrdd Ymddiriedolwyr

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu a chyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad. Maen nhw’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol gofynnol. Mae ein hymddiriedolwyr yn gweithio i ni yn wirfoddol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod a phlant.

 

Kirsty Palmer (Cadeirydd)

Kirsty yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n cwmpasu gyrfaoedd, iechyd meddwl, anabledd, caplaniaeth a chyngor ariannol, ymhlith pethau eraill. Mae wedi byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd bellach ond cyn hynny roedd Kristy yn byw ac yn gweithio yn Llundain lle bu’n Gadeirydd Ymddiriedolwyr North Kensington Law Centre. Mae’n byw gyda’i phartner a’i dwy gath, Samson a Chester, ac mae’n wirfoddolwr rheolaidd gyda Parkrun, yn rhedwr brwd ac yn dyheu am fod yn godwr pŵer.

“Dwi’n ffeminydd ac ro’n i am ddefnyddio fy mhrofiad o arweinyddiaeth ac ymddiriedolaeth wrth wasanaethu achos dwi wir wedi ymrwymo iddo’n bersonol. Dwi’n credu byddwn ni ond yn taclo epidemig trais yn erbyn menywod a merched os gallwn ni ddylanwadu a lobïo ar lefel strwythurol a systematig i sicrhau nid yn unig bod gennyn ni wasanaethau arbenigol sydd ag adnoddau digonol, ond hefyd ein bod ni’n mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol – fyddwn ni byth yn gwella’r clefyd os byddwn ni’n trin y symptomau’n unig.”

 

Helen Kell

Helen Kell (Is-gadeirydd) yw Cyfarwyddwr Twf Strategol Chwarae Teg. A hithau wedi bod yn Gyfarwyddwr Incwm a Datblygiad yn ddiweddar ar gyfer gwasanaeth aelodau, mae Helen yn deall amgylchedd ariannu a chomisiynu gwasanaethau merched a’r cyfyngiadau mae’n rhaid i wasanaethau ddarparu oddi mewn iddynt. Cyn gweithio yn y sector merched, mae Helen wedi gweithio ym maes cynhwysiant digidol, hyfforddiant, tlodi plant, ac adfywio ffisegol. Trwy ei gwaith yn y sector tlodi plant, lle gwelodd effaith anghymesur llymder ar fywydau merched y daeth i roi mwy o ffocws ar anghydraddoldebau rhyw.

Ochr yn ochr â’i gwaith, mae Helen yn aelod gweithgar o’i chymuned gan gynnwys fel ymddiriedolwr ar gyfer yr elusen Youth Inclusion. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn materion cyfoes, cerddoriaeth, darllen, criced a chrosio.

 

Trish McGrath

Mae Trish McGrath yn Brif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, wedi gweithio cyn hynny yn y trydydd sector am 22 mlynedd. Mae’n ffeminydd angerddol sydd â diddordeb a rhan weithredol frwd yn y gwaith o ymgyrchu a brwydro dros gydraddoldeb.

Mae Trish yn byw ar arfordir canolbarth Cymru gyda’i chathod, ei chŵn a’i mab. Yn ei hamser hamdden mae’n hoff iawn o ganu, crefftau gwlân, y traeth a ffitrwydd drwy gryfder a chyflyru a rhedeg ar hyd llwybrau arfordirol a bryniau lleol.

 

Vicky Friis

Vicky Friis yw Prif Weithredwr gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol Bro Morgannwg, Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro.

Yn ei rôl flaenorol, roedd Vicky yn arwain Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin, gan fynd â nhw drwy safonau ansawdd, darparu cyfleoedd datblygu i’r tîm, a chynyddu eu hincwm a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu. Gweithiodd Vicky hefyd fel rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf yn Rhondda Cynon Taf, gan ddatblygu sawl prosiect a menter lwyddiannus.

Mae cael gradd yn 32 mlwydd oed, tra’n magu tri phlentyn a dal swydd ran-amser yn un o gyflawniadau mwyaf balch Vicky.

 

Nic Danson

Mae Nic Danson yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol, wedi gweithio cyn hynny yn y sector elusennol gan gefnogi grwpiau difreintiedig i oresgyn anghydraddoldebau strwythurol. Yn 2018, roedd hi hefyd yn Swyddog Gweithredol i gefnogi rôl Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru.

Mae Nic yn rhiant lywodraethwr ar gyfer ei hysgol gynradd a chyfun leol ac mae’n frwd dros gefnogi menywod sydd wedi’u heffeithio gan drais yn erbyn menywod a merched a thros fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

 

Rowena Christmas

Mae Rowena Christmas yn feddyg teulu ac arweinydd diogelu a chanddi 23 blynedd o brofiad o weithio mewn practis bach gwledig yn Sir Fynwy. Mae meithrin perthnasoedd â theuluoedd dros y cyfnod hwn wedi ei galluogi i ddeall effaith ddwys cam-drin domestig ar deuluoedd cyfan dros genedlaethau.  O ganlyniad i’r wybodaeth hon, sefydlodd Rowena grwpiau cymorth diogelu cyfoedion led led Cymru, gan alluogi meddygon teulu i wella’r gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth a gynigir i gleifion sydd mewn perygl o niwed.   Fe’i gwnaed yn Esiamplwr Bevan am y gwaith hwn.

Ochr yn ochr â’i gwaith yn y practis, mae Rowena ar hyn o bryd yn Gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru. Diogelu yw ei blaenoriaeth fel Cadeirydd, ynghyd â chanolbwyntio ar ofal sy’n seileidig ar berthnasoedd ac anghydraddoldebau iechyd.

 

Julie McCarthy

Julie yw Rheolwr Ansawdd Ecosurety, cynllun cydymffurfio amgylcheddol sy’n helpu cynhyrchwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau ailgylchu. Fel archwilydd ISO cymwysedig, mae ganddi’r gallu i gamu’n ôl, edrych ar y darlun mawr, ymchwilio, herio a darparu mewnwelediadau diddorol a gwrthrychol i hwyluso gwneud penderfyniadau er mwyn cyflawni nodau strategol y Cwmni.

Yn wreiddiol o Fanceinion, mae Julie wedi gweithio mewn nifer o wledydd gan gynnwys y DU, De Affrica a’r Iseldiroedd ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr.

“Rwyf fi wedi cael y fraint o ymweld â llawer o wledydd sydd â diwylliannau gwahanol iawn ac rwyf wedi gweld gwahaniaethu, ac ar brydiau ei brofi, i raddau amrywiol na ddylai ddigwydd yn yr oes sydd ohoni. Rwyf fi’n credu’n frwd mewn cydraddoldeb, ac wedi credu o oedran ifanc, boed hynny ar sail oedran, hil, rhywedd, neu gredoau crefyddol i enwi ond ychydig ac rwy’n angerddol dros allu gwneud gwahaniaeth trwy helpu i sicrhau’r newid gofynnol yn ein cymdeithas ym mha bynnag allu y gallaf. “

Pan nad yw’n gweithio, mae Julie yn ddarllenwr brwd, yn hoffi taith gerdded dda mewn ‘tywydd teg’ ac mae’n artist awyddus.

 

Kerry-Lynne Doyle

Mae Kerry-Lynne yn newyddiadurwr cymwysedig ac yn Ymarferydd Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig sydd wedi gweithio ym maes cyfathrebu iechyd elusen yng Nghymru ers 2009. Mae hi wedi arwain gwaith cyfathrebu Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru ers blynyddoedd lawer ac mae’n aelod o’r tîm arweinyddiaeth yng Nghymru.

Cyn hynny, roedd hi wedi bod yn ymddiriedolwr i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn ogystal â sefydlu a chadeirio elusen newyn gwyliau bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda phobl leol.

Y tu allan i’r gwaith, mae Kerry-Lynne yn mwynhau darllen, rhedeg, ioga a chanu mewn côr. Mae Kerry-Lynne hefyd yn hyfforddwr cymwysedig ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros ddegawd.

 

Suzanne Sarjeant

Mae Suzanne wedi gweithio yn y sector addysg ers 30 mlynedd fel athro, pennaeth, ymchwilydd ac ymgynghorydd proffesiynol. Trwy gydol ei gyrfa mae wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd.

Mae hi wedi bod yn eiriolwr cryf dros ddatblygu mwy o ymgysylltiad a chefnogaeth i deuluoedd ac mae wedi gwneud ymchwil yn y maes hwn er mwyn cefnogi ysgolion i ddatblygu hyn. Mae hi wedi cael profiad helaeth o arwain ac mae’n gyn-gydymaith o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Ar hyn o bryd, mae hi ar secondiad i Lywodraeth Cymru lle mae hi wedi cefnogi datblygu’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Bro.

 

Michelle Pooley

Michelle Pooley yw Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Camdrin Domestig Gorllewin Cymru, aelod o Cymorth i Ferched Cymru.

Mae hi’n arweinydd a rheolwr profiadol yn y sector trais domestig, ar ôl gweithio am dros 30 mlynedd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol ar strategaeth, polisi, comisiynu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae Michelle yn hyrwyddwr hawliau merched a phlant ac yn arbenigo mewn datblygu sefydliadol, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth; ac ymarferydd datblygu cymunedol a cham-drin domestig profiadol gyda chymwysterau Meistr mewn gweinyddu a phartneriaethau yn y sector cyhoeddus/cymunedol. Hi yw sylfaenydd a chydlynydd y rhaglen gyntaf ar sail tystiolaeth cam-drin plant i rieni ledled Ewrop – Break4Change.

 

Ein staff a gwirfoddolwyr

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cyflogi tua 50 o staff ymroddedig ar hyd a lled Cymru, gan weithio ym meysydd aelodaeth ac ymgysylltu, cyfathrebu, hyfforddi, polisi a materion cyhoeddus, datblygu gwasanaethau, cynnwys goroeswyr, cymorth busunes, ac mewn gwasanaethau uniongyrchol. Mae gennym ni hefyd wirfoddolwyr rheolaidd sy’n cefnogi ein gwaith.

Ein Prif Swyddog Gweithredol

Ymunodd Sara Kirkpatrick â Cymorth i Ferched Cymru fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ebrill 2020.

Cyn hynny roedd yn Rheolwr Ymchwil a Datblygu ar gyfer Respect, sefydliad aelodaeth y DU ar gyfer gwaith gyda chyflawnwyr trais domestig, dioddefwyr gwrywaidd a phobl ifanc. Yn y rôl honno, cefnogodd Sara aelod-sefydliadau i ddarparu ymyriadau gyda chyflawnwyr trais a cham-drin domestig, yn ogystal ag arwain ym meysydd ymchwil a datblygu gwasanaethau ledled y DU.

Gan gychwyn ei gyrfa yn darparu cymorth mewn lloches i fenywod, mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cleientiaid gan gynnwys dioddefwyr gwrywaidd, plant sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, menywod sy’n aros mewn perthnasoedd camdriniol a chyflawnwyr cam-drin domestig. Mae Sara wedi cyfrannu at nifer o brosiectau rheng flaen arloesol gyda chyflawnwyr trais partner agos gan gynnwys cydysgrifennu a chyflwyno prosiect rhybudd amodol CARA a enillodd sawl gwobr, mae wedi cyfrannu tuag at ddatblygu prosiect DRIVE ac, yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio ochr yn ochr â Cymorth i Ferched Cymru ar yr elfen i gyflawnwyr o fewn eu prosiect Newid Sy’n Para.