2022-2023: Ffyrdd o ymuno â’n mudiad

Dod yn gefnogwr sefydliadol

Os ydych chi’n sefydliad, cangen neu adran yn y trydydd sector, cyhoeddus neu breifat sydd wedi cymryd y cam ychwanegol i gefnogi a chymeradwyo gwaith achub bywyd Cymorth i Ferched Cymru, gallwch ddod yn Gefnogwr Sefydliadol.

Fel cefnogwr sefydliadol, rydych chi’n addo sefyll gyda goroeswyr ac yn gyfnewid am hynny, rydyn ni’n rhoi’r adnoddau, y gefnogaeth a’r arweiniad priodol i chi i gyflawni eich addewid yn effeithiol.

Os ydych chi’n teimlo bod eich sefydliad yn cefnogi ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd ffeministaidd, gallech ddod yn gefnogwr sefydliadol i Cymorth i Ferched Cymru.

Yn 2022-23, fe wnaethom adnewyddu ein cynnig i gefnogwyr sefydliadol, sydd bellach yn cynnwys:

  • Hyfforddiant hanner diwrnod am ddim i hyd at 15 o weithwyr.
  • Mynediad am ddim i weminarau a digwyddiadau dethol.
  • Cefnogaeth i ddatblygu eich polisïau yn y gweithle i frwydro yn erbyn VAWDASV a chefnogi goroeswyr.

Dod yn gefnogwr neu godwr arian

Daw cefnogwyr Cymorth i Ferched Cymru o bob cefndir.  Mae eu heffaith unigol ac ar y cyd wrth godi arian ar gyfer ein hachos yn parhau i greu argraff arnom. Yn 2022/23, cododd ein cymuned anhygoel o gefnogwyr £74,565 anhygoel i helpu i ariannu ein gwaith hanfodol. 

Roedd rhai yn rhoi rhoddion untro, neu fe ddaethon nhw’n roddwyr rheolaidd. Cynhaliodd un tîm gwych ddawns elusennol i godi arian i ni a chymerodd eraill ran mewn digwyddiadau rhedeg fel Hanner Marathon Caerdydd, cwblhau heriau personol, a chynnal nosweithiau comedi, boreau coffi, gwerthu cacennau, a chasgliadau bwcedi.

Parhaodd busnesau bach i’n cefnogi ni hefyd, trwy gyfrannu elw o werthiant ystod o gynhyrchion gwych gan gynnwys gemwaith, canhwyllau, crysau chwys, a the!

Yn ystod y 16 Diwrnod o Weithredu yn 2022, cynhaliwyd ein hymgyrch Rhoi Mawr gyntaf. Gyda chefnogaeth addewidion gan ddau roddwr cyfatebol, roeddem ni’n gallu sicrhau bod unrhyw rodd a roddwyd o fewn cyfnod yr ymgyrch yn cael ei ddyblu. Fe wnaethom ganolbwyntio ar godi arian i gefnogi lles ein Rhwydwaith Goroeswyr gwych. Fe wnaethon ni godi £12,755 gwych a hyd yn oed ennill Gwobr y Big Give am Ymgysylltu â Chefnogwyr!

Pan fydd unigolion yn dewis cefnogi Cymorth i Ferched Cymru, rydym ni’n gwybod, yn ogystal â chodi arian y mae mawr ei angen, y byddant hefyd yn creu ymwybyddiaeth o VAWDASV yng Nghymru a thu hwnt. Ac mae hyn yn amhrisiadwy.

Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n amser anodd, ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb sy’n dewis cefnogi Cymorth i Ferched Cymru drwy eu rhoddion, gweithgareddau noddedig, neu ddigwyddiadau. P’un a yw eich gweithgaredd yn fawr neu’n fach, yn codi llawer o arian neu ychydig – mae eich effaith ar y cyd yn anhygoel, a diolchwn i chi i gyd.

Ymunwch â'r gymuned Gofyn i Fi

Os ydych chi’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru, ac eisiau helpu’ch cymuned i siarad am VAWDASV a gwybod ble i gyfeirio goroeswyr am gymorth, yna efallai y bydd hyfforddiant Gofyn i Fi yn iawn i chi.

Diolch i gyllid gan PCC De Cymru, Cyngor Abertawe, a Sefydliad Waterloo, rydym ni bellach yn cynnig hyfforddiant yng Ngogledd a De Cymru.

Darganfyddwch pryd mae’r cwrs nesaf

Ymunwch â'n Rhwydwaith Goroeswyr

Image showing stylistic illustrations of women's faces below text that says: A sisterhood of support through ups and downs, leading the way forward to a positive change.

Os yw eich profiadau wedi eich arwain i deimlo’n angerddol am faterion sy’n effeithio ar oroeswyr VAWDASV a’u plant, byddem wrth ein bodd yn cael eich llais yn ein Rhwydwaith Goroeswyr.

Os nad yw’r Rhwydwaith yn iawn i chi, mae gennym ni hefyd gyfleoedd eraill i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, arwyddo deisebau, a mwy.

Ewch i Ardal Goroeswyr ein gwefan

Gweithio gyda ni neu un o'n aelod-sefydliadau

Os hoffech weithio gyda ni, daliwch ati i edrych ar ein swyddi gwag presennol. Mae ein prif swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ond mae llawer o’n rolau yn hyblyg ac yn caniatáu gweithio hybrid.

annog ceisiadau gan bobl nad yw eu profiadau neu eu cefndir yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector ar gyfer unrhyw un o’r rolau rydym ni’n eu cynnig.

 

Os hoffech weithio i’ch gwasanaeth VAWDASV lleol, edrychwch ar ein rhestr o rolau agored gyda’n aelod-sefydliadau.

Os nad ydych chi’n chwilio am waith eich hun ar hyn o bryd, gallwch barhau i’n helpu ni a’n aelod-sefydliadau trwy rannu ein swyddi gwag gyda’ch rhwydweithiau personol.

Gallwch hefyd ein helpu i helpu goroeswyr yng Nghymru drwy hyrwyddo’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn eich gweithle neu ymhlith eich ffrindiau a’ch teulu.