Ymddiriedolwyr a Phrif Swyddog Gweithredol

Ein Bwrdd Ymddiriedolwyr

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu a chyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad. Maen nhw’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol gofynnol. Mae ein hymddiriedolwyr yn gweithio i ni yn wirfoddol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod a phlant.

 

Julie McCarthy (Cadeirydd)

Julie yw Rheolwr Ansawdd Ecosurety, cynllun cydymffurfio amgylcheddol sy’n helpu cynhyrchwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau ailgylchu. Fel archwilydd ISO cymwysedig, mae ganddi’r gallu i gamu’n ôl, edrych ar y darlun mawr, ymchwilio, herio a darparu mewnwelediadau diddorol a gwrthrychol i hwyluso gwneud penderfyniadau er mwyn cyflawni nodau strategol y Cwmni.

Yn wreiddiol o Fanceinion, mae Julie wedi gweithio mewn nifer o wledydd gan gynnwys y DU, De Affrica a’r Iseldiroedd ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr.

“Rwyf fi wedi cael y fraint o ymweld â llawer o wledydd sydd â diwylliannau gwahanol iawn ac rwyf wedi gweld gwahaniaethu, ac ar brydiau ei brofi, i raddau amrywiol na ddylai ddigwydd yn yr oes sydd ohoni. Rwyf fi’n credu’n frwd mewn cydraddoldeb, ac wedi credu o oedran ifanc, boed hynny ar sail oedran, hil, rhywedd, neu gredoau crefyddol i enwi ond ychydig ac rwy’n angerddol dros allu gwneud gwahaniaeth trwy helpu i sicrhau’r newid gofynnol yn ein cymdeithas ym mha bynnag allu y gallaf. “

Pan nad yw’n gweithio, mae Julie yn ddarllenwr brwd, yn hoffi taith gerdded dda mewn ‘tywydd teg’ ac mae’n artist awyddus.

 

Shawni Singh  

Mae Shawni yn Weithiwr Proffesiynol angerddol gyda ffocws ar dalent a phrofiad, sy’n rhychwantu recriwtio, dysgu a datblygu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac ymgysylltu â gweithwyr. Ar ôl byw yn Ne Cymru drwy gydol ei hoes, mae Shawni yn angerddol am gefnogi dilyniant gyrfa merched ac mae wedi gwirfoddoli gyda Young Women’s Trust a FinTech Cymru i hyrwyddo mentrau yn y maes hwn. Mae hi’n credu’n gryf mewn creu cyfleoedd sy’n grymuso merched i ffynnu yn eu gyrfaoedd a’u cymunedau.

Y tu allan i’w gwaith proffesiynol, mae Shawni yn mwynhau archwilio ffilm a theledu, chwalu naratifau a datgelu’r negeseuon y tu ôl iddynt.

 

Patty Diaz-Rhys 

Mae Patty yn arweinydd strategol gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn cydymffurfio, rheoleiddio a pholisi cyhoeddus ar draws y llywodraeth, sefydliadau rhyngwladol, a’r sectorau modurol a thechnoleg. Mae hi wedi cyfrannu at brosiectau diwygio lles mawr yng Nghymru, gan gryfhau’r gefnogaeth i gymunedau agored i niwed a hyrwyddo effaith gymdeithasol hirdymor.

Mae hi’n cael ei hadnabod am lunio fframweithiau rheoleiddio blaengar ar dechnoleg cerbydau, a chynaliadwyedd, gan gyfrannu at dasglu rhyngwladol – gan gynnwys Gweithgor y Cenhedloedd Unedig ar wahaniaethu yn erbyn Menywod a Merched. Mae hi’n cynnig arbenigedd mewn polisi cam-drin domestig ac amddiffyniadau i fenywod a merched, gan gyfuno mewnwelediad technegol gydag ymrwymiad cryf i degwch ac urddas dynol.

Yn feddyliwr traws-ddiwylliannol, mae Patty yn hyrwyddo arweinyddiaeth sy’n cael ei sbarduno gan ddilysrwydd, lles, a systemau sy’n grymuso pobl a chymdeithas. Hyfforddodd i ddechrau mewn Economeg gydag astudiaethau ôl-raddedig mewn Busnes cyn trosglwyddo i’r Gyfraith, gan ddal LLB, a LLM.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y sector modurol yn Bentley Motors.

 

Fiona Vera Gray 

Mae Fiona yn Athro Trais Rhywiol ac ar hyn o bryd yn Gyd-Gyfarwyddwr yn yr Uned Astudiaethau Cam-drin Plant a Menywod ym Mhrifysgol Metropolitan Llundain.

Treuliodd drosddegawdyn y mudiad Rape Crisis rheng flaen cyn symud i’r byd academaidd ac mae wedi gweithio mewn swydd gynghorol i’r llywodraeth gan gynnwys ar faterion fel aflonyddu rhywiol cyhoeddus, troseddau rhywiol di-gyswllt, a’r cwricwlwm perthnasoedd ac addysg rhyw cynradd ac uwchradd.

Mae hi wedi cyhoeddi tri llyfr hyd llawn ar aflonyddu rhywiol, gwaith diogelwch, a phornograffi, ac wedi ysgrifennu ar gyfery Guardian,y Telegraph, Y BBC, ac mae’n sylwebydd cyfryngau rheolaidd ar bornograffi, trais rhywiol, aflonyddu rhywiol, ac atal treisio. Yn fwyaf diweddar roedd Vera-Gray yn rhan o’r timau academaidd oedd yn gweithio ar Ymgyrch Soteria a ariannwyd gan  Y Swyddfa Gartref, sy’n ceisio trawsnewid ymateb yr heddlu i dreisio yng Nghymru a Lloegr.

 

Treena Davies 

Yn hwylusydd ac ymgynghorydd yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, mae Treena wedi treulio ei gyrfa yn gwrando ar leisiau’r rhai sydd â phrofiad byw, eirioli drostynt a chwyddo’r lleisiau hynny. Mae hi’n gweithio gyda sefydliadau, arweinwyr a thimau i ymgorffori profiad byw mewn gwneud penderfyniadau a dylunio gwasanaethau, gan eu helpu i feddwl yn wahanol trwy fyfyrio, chwilfrydedd a thosturi.

Gan ddefnyddio ei phrofiad byw ei hun o drais yn erbyn merched, mae Treena yn dod â mewnwelediad, empathi, ac ymrwymiad i greu newid ystyrlon i ferched a chymunedau.

Y tu allan i’r gwaith, mae Treena yn mwynhau bod yn actif a bod yn yr awyr agored. Mae ganddi hefyd ddau o blant ifanc a chi i’w chadw’n brysur!

 

Trish McGrath

Mae Trish yn Brif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, wedi gweithio cyn hynny yn y trydydd sector am 22 mlynedd. Mae’n ffeminydd angerddol sydd â diddordeb a rhan weithredol frwd yn y gwaith o ymgyrchu a brwydro dros gydraddoldeb.

Mae Trish yn byw ar arfordir canolbarth Cymru gyda’i chathod, ei chŵn a’i mab. Yn ei hamser hamdden mae’n hoff iawn o ganu, crefftau gwlân, y traeth a ffitrwydd drwy gryfder a chyflyru a rhedeg ar hyd llwybrau arfordirol a bryniau lleol.

 

Vicky Friis

Vicky yw Prif Weithredwr gwasanaeth cam-drin domestig arbenigol Bro Morgannwg, Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro.

Yn ei rôl flaenorol, roedd Vicky yn arwain Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin, gan fynd â nhw drwy safonau ansawdd, darparu cyfleoedd datblygu i’r tîm, a chynyddu eu hincwm a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu. Gweithiodd Vicky hefyd fel rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf yn Rhondda Cynon Taf, gan ddatblygu sawl prosiect a menter lwyddiannus.

Mae cael gradd yn 32 mlwydd oed, tra’n magu tri phlentyn a dal swydd ran-amser yn un o gyflawniadau mwyaf balch Vicky.

 

Nic Danson

Mae Nic yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol, wedi gweithio cyn hynny yn y sector elusennol gan gefnogi grwpiau difreintiedig i oresgyn anghydraddoldebau strwythurol. Yn 2018, roedd hi hefyd yn Swyddog Gweithredol i gefnogi rôl Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru.

Mae Nic yn rhiant lywodraethwr ar gyfer ei hysgol gynradd a chyfun leol ac mae’n frwd dros gefnogi menywod sydd wedi’u heffeithio gan drais yn erbyn menywod a merched a thros fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

 

Suzanne Sarjeant

Mae Suzanne wedi gweithio yn y sector addysg ers 30 mlynedd fel athro, pennaeth, ymchwilydd ac ymgynghorydd proffesiynol. Trwy gydol ei gyrfa mae wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd.

Mae hi wedi bod yn eiriolwr cryf dros ddatblygu mwy o ymgysylltiad a chefnogaeth i deuluoedd ac mae wedi gwneud ymchwil yn y maes hwn er mwyn cefnogi ysgolion i ddatblygu hyn. Mae hi wedi cael profiad helaeth o arwain ac mae’n gyn-gydymaith o’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Ar hyn o bryd, mae hi ar secondiad i Lywodraeth Cymru lle mae hi wedi cefnogi datblygu’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Bro.

 

Michelle Pooley

Michelle yw Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Camdrin Domestig Gorllewin Cymru, aelod o Cymorth i Ferched Cymru.

Mae hi’n arweinydd a rheolwr profiadol yn y sector trais domestig, ar ôl gweithio am dros 30 mlynedd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol ar strategaeth, polisi, comisiynu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae Michelle yn hyrwyddwr hawliau merched a phlant ac yn arbenigo mewn datblygu sefydliadol, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth; ac ymarferydd datblygu cymunedol a cham-drin domestig profiadol gyda chymwysterau Meistr mewn gweinyddu a phartneriaethau yn y sector cyhoeddus/cymunedol. Hi yw sylfaenydd a chydlynydd y rhaglen gyntaf ar sail tystiolaeth cam-drin plant i rieni ledled Ewrop – Break4Change.

 

Ein staff a gwirfoddolwyr

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cyflogi tua 50 o staff ymroddedig ar hyd a lled Cymru, gan weithio ym meysydd aelodaeth ac ymgysylltu, cyfathrebu, hyfforddi, polisi a materion cyhoeddus, datblygu gwasanaethau, cynnwys goroeswyr, cymorth busunes, ac mewn gwasanaethau uniongyrchol. Mae gennym ni hefyd wirfoddolwyr rheolaidd sy’n cefnogi ein gwaith.

Ein Prif Swyddog Gweithredol

 

 

Sara Kirkpatrick yw Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru lle mae hi wedi arwain y tîm ers dechrau 2020, gan gefnogi gwasanaethau arbenigol ledled Cymru wrth iddynt brofi heriau digynsail pandemig byd-eang, a chyfyngiadau symud cenedlaethol yn ogystal â fflangell barhaus VAWG. Ei gweledigaeth yw gweld “byd lle na roddir gwerth ar ecsbloetio, lle na roddir cyfrifoldeb ar ficimeiddio a lle nad yw ymylu yn cael ei droseddoli.”.

Gan ddefnyddio dull ffeministaidd i herio trais yn erbyn menywod a merched bob amser, mae hi wedi gweithio ar draws lleoliadau cymunedol a chyfiawnder troseddol ers dros 30 mlynedd. Gan ddechrau ei gyrfa yn darparu cymorth mewn lloches i ferched, mae hi wedi gweithio gydag ystod o grwpiau cleientiaid gan gynnwys dioddefwyr gwrywaidd, plant sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig, merched sy’n aros mewn perthnasoedd camdriniol a chyflawnwyr cam-drin domestig.

Maes arbenigedd personol Sara yw gweithio gyda throseddwyr; gan gydnabod os yw ymddygiad camdriniol yn ddewis, yna mae newid hefyd yn ddewis. Mae hi wedi cyfrannu at sawl prosiect arloesol rheng flaen gyda chyflawnwyr IPV.

Yn ogystal â’i rôl Prif Swyddog Gweithredol, mae Sara hefyd yn Is-lywydd Merched yn Erbyn Trais Ewrop, yn Ymddiriedolwr y Glymblaid Ffydd a VAWG, mae hi’n eistedd ar Fwrdd cenedlaethol Merched Catholig ac yn Ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Winchester yn yr adran gwaith cymdeithasol – rôl lle mae’n mwynhau’r cyfle i alluogi ymarferwyr rheng flaen yfory i fynd i’r afael â cham-drin ar sail rhywedd yn ddiogel ac yn effeithiol.