Deall beio dioddefwyr a pham mae’n niweidiol i oroeswyr

Pan fydd rhywun yn siarad yn gyhoeddus am brofiadau personol o drais neu gamdriniaeth, neu fod achos proffil uchel yn cael sylw yn y cyfryngau, bydd sylwadau ac ymatebion tebyg yn codi dro ar ôl tro. Mae’r rhain yn cynnwys

“Wel, dylai fod wedi gadael y berthynas yn gynt.”

“Beth oedd hi’n ei ddisgwyl, cerdded adref ar ei phen ei hun yn y nos?”

“Mae’n debygol na ddylai fod wedi yfed cymaint.”

“Ond beth oedd hi’n ei wisgo?”

Mae’r rhain oll yn enghreifftiau o feio dioddefwyr.

Beth yw beio dioddefwyr?

Beio dioddefwyr yw unrhyw ymateb sy’n datgan yn benodol neu’n awgrymu bod y dioddefwr ar fai am y gamdriniaeth mae wedi’i brofi.

Fel yr enghreifftiau uchod, mae beio dioddefwyr yn aml yn troi o gwmpas gweithredoedd y gallai dioddefwr fod wedi eu cymryd (neu beidio â’u cymryd) i osgoi profi camdriniaeth. Mewn gwirionedd, bydd trais a chamdriniaeth yn digwydd heb ystyried dewisiadau’r dioddefwr.

Yn fwriadol neu’n anfwriadol, mae beio dioddefwyr yn gallu achosi niwed difrifol i oroeswyr camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, gan eu gadael yn teimlo’n gyfrifol am weithredoedd eu camdriniwr, felly’n cynyddu teimladau o gywilydd ac euogrwydd.  Nid yw beio dioddefwyr am eu camdriniaeth eu hunain byth yn dderbyniol, camdrinwyr yn unig sydd ar fai.

Pa effaith mae hyn yn ei chael ar oroeswyr?

Nid yw’r creithiau a adewir gan gamdriniaeth yn gorfforol yn unig. Mae profi trais emosiynol, corfforol neu rywiol yn gallu cael effeithiau seicolegol tymor hir ar oroeswr, gan gynnwys hunanamheuaeth a hunanbarch isel. Dyma pam mae ymateb cefnogol i ddatgeliad o gamdriniaeth mor bwysig ar y ffordd at adferiad.

Un o’r rhwystrau mwyaf rhag ceisio cymorth ac adrodd am gamdriniaeth yw’r dioddefwr yn teimlo ei bod/fod ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd iddi/iddo. Pan fydd pobl yn siarad neu’n ymddwyn mewn ffordd sy’n atgyfnerthu’r ymdeimlad hwn o feio’u hunain, gall effaith y gamdriniaeth fod yn helaethach, gan arwain at adferiad arafach.

Pan fydd rhywun yn rhoi’r bai ar oroeswr, mae’n annilysu ei brofiadau, gan gynyddu ei deimladau o fod yn ynysig ac o hunanamheuaeth.

Gall beio dioddefwyr hefyd annog dioddefwr i beidio â chodi llais eto neu geisio unrhyw ffurf o gyfiawnder neu gymorth, trwy ofn na fydd yn cael ei gredu.

Mewn gwrthgyferbyniad, mae ymatebion cadarnhaol (lle nad yw agweddau beio dioddefwyr yn bresennol) yn gallu lleihau teimladau o straen ôl-drawmatig, iselder a materion iechyd.

Beth sy’n ymateb sydd o fwy o gymorth?

Os yw rhywun yn dweud wrthych ei bod/fod wedi profi camdriniaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallai fod wedi’i wneud yn wahanol, meddyliwch am sut y gallwch ei chynorthwyo/gynorthwyo i symud ymlaen.

Gwrandewch arni/arno, credwch hi/ef, a rhowch wybod iddi/iddo nad ei bai/fai yw hyn byth. Edrychwch tua’r dyfodol, a’i thaith/daith at wella, trwy ei rymuso/grymuso yn ei gamau/chamau nesaf.

Mae gennym lu o adnoddau ar-lein i ddysgu am fathau gwahanol o gamdriniaeth yma.

Gallwch hefyd gyfeirio goroeswyr at linell gymorth Byw Heb Ofn am gymorth 24/7 am ddim cyfrinachol a chyngor ar gamdriniaeth ddomestig, trais rhywiol, rheolaeth orfodol a stelcian.

Galwch 0808 80 10 800

Testun 0786 007 7333

E-bost [email protected]

Ewch i www.llyw.cymru/bywhebofn