Fel plant, gall oedolion hefyd brofi neu fod mewn perygl o brofi camfanteisio’n rhywiol.
Mae camfanteisio’n rhywiol yn digwydd pan fydd person yn cael ei orfodi, ei wthio neu ei ddylanwadu i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol:
- Gan rywun fel partner neu ffrind.
- Allan o reidrwydd, i dalu am anghenion sylfaenol fel bwyd neu lety.
Gall camfanteisio’n rhywiol ddigwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:
- Trefniadau ‘rhyw am rent’, lle mae landlord yn cynnig llety yn gyfnewid am weithgarwch rhywiol.
- Cael eich gorfodi i gyfnewid rhyw am arian, llety, bwyd er mwyn goroesi – sydd hefyd yn cael ei alw yn ‘rhyw goroesi’.
- Cael eich gorfodi i’r diwydiant rhyw gan drydydd parti – fel partner neu ffrind.
- Cael eich gorfodi i weithgarwch rhywiol digroeso gyda thrydydd partïon gan bartner, aelod o’r teulu neu ffrind.
- Cael eich masnachu er mwyn cyflawni gweithredoedd rhywiol.
Yn aml, mae elfen o feithrin perthynas amhriodol cyn i’r camfanteisio ddigwydd.