“Byddan nhw’n dweud dyna yw bywyd felly bwrwch ati”
Lle mae pobl ifanc yng Nghymru yn dod o hyd i ffynonellau ‘gwydnwch’.
Mae plant a phobl ifanc yn troi at fannau ar-lein ac at ffrindiau yn hytrach nag at yr Heddlu, sefydliadau addysg a chyflogwyr am gefnogaeth.
Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw gan Cymorth i Ferched Cymru yn datgelu bod 80% o gyfranogwyr, mewn arolwg o bobl ifanc 13-25 oed, yn nodi y byddan nhw’n troi at y rhyngrwyd – gan gynnwys ystafelloedd sgyrsio, llinellau cymorth, a llwyfannau hapchwarae ar-lein ar adegau anodd, ac ni ddywedodd yr un o’r cyfranogwyr y byddan nhw’n ceisio cymorth yn bersonol gan yr Heddlu. Cafodd yr adroddiad ei ddatblygu gyda chymorth y Ganolfan i fynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yng Nghymru.
Daw adroddiad ‘Rwy’n Ymddiried Ynddyn Nhw’ wrth i Gymru baratoi ar gyfer gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn 2022. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn credu y bydd llwyddiant cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy’n sail iddo, yn seiliedig yn rhannol ar ddeall y mannau a’r personau hynny o fewn cymunedau ledled Cymru y mae plant a phobl ifanc yn eu hadnabod fel ffynonellau cymorth a ‘gwydnwch’.
Dywedodd Heddwen Daniels, Swyddog Atal gyda Cymorth i Ferched Cymru:
“Gall dulliau cymunedol cyfan o fynd i’r afael ag atal fod yn effeithiol gan fod goroeswyr yn debygol o ddatgelu camdriniaeth neu drais i bobl o fewn eu cymunedau cyn cael mynediad at wasanaethau swyddogol, ond rydyn ni’n aml yn cynllunio’r dulliau hyn o safbwynt oedolion – pan fydd plant a phobl ifanc yn ceisio cymorth bydd y rhwystrau sy’n eu hwynebu nhw’n wahanol. Mae’n hanfodol i ni fuddsoddi amser, adnoddau ac empathi i ddeall yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc o bob cefndir er mwyn iddyn nhw deimlo’n ddiogel a theimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth.”
Mae gan yr adroddiad sawl canfyddiad dadlennol, y mwyaf brawychus yw nad yw llawer o bobl ifanc yn ystyried bod sefydliadau allweddol yn lleoedd hygyrch, dymunol na dibynadwy i geisio cymorth.
Ni ddywedodd yr un o’r cyfranogwyr y bydden nhw’n ceisio cymorth gan yr Heddlu ac wrth fyfyrio ar eu profiadau personol, ni ddywedodd yr un o’r cyfranogwyr 16-25 oed fod yr Heddlu wedi bod o gymorth. Roedd pobl ifanc dduon a lleifarifedig bron hanner mor debygol â’u cymheiriaid Gwyn Prydeinig o nodi’r Heddlu fel ffynhonnell cymorth bosibl.
Roedd yr ymatebion ynghylch addysg hefyd yn peri pryder; nododd 50% o gyfranogwyr a fyfyriodd ar eu profiadau nad oedd gweithwyr addysg proffesiynol wedi bod o gymorth. Yn gyffredinol, dywedodd 43% o ymatebwyr nad oedden nhw wedi derbyn cymorth pan aethant at athrawon am gymorth. Mae’r arolwg yn datgelu mai’r cyfnod mwyaf cyffredin i bobl ifanc brofi camdriniaeth neu adegau anodd oedd rhwng 11-16 oed, mae hyn yn arbennig o annifyr o ystyried y datgeliadau am aflonyddu a cham-drin rhywiol gan Everyone’s Invited, gyda mwy na 90 o ysgolion yng Nghymru wedi’u henwi ar y wefan.
Mae’n gwbl amlwg bod angen cefnogi ysgolion gyda hyfforddiant i ddarparu ymateb wedi’i lywio gan anghenion i blant a phobl ifanc sy’n datgelu aflonyddu, cam-drin neu drais. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu’r angen i gryfhau llwybrau atgyfeirio i gymorth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn i gyd wedi’i gynnwys yn Canllaw Arferion Da: Dull Addysg Gyfan o fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2015, ond mae’n amlwg nad yw’n cael ei gyflawni ledled Cymru hyd yma.
Nododd yr adroddiad fod mannau ar-lein a ffrindiau yn ffynonellau ‘gwydnwch’ pwysig
“Maen nhw’n gwneud i fi deimlo’n saff a dwi’n gwybod galla i ymddiried ynddyn nhw gyda’r wybodoaeth.”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai’r rhinweddau cefnogol sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan bobl ifanc yw cael cyngor, ymddiriedaeth, teimlo’n ddiogel, a pheidio â chael eu barnu. Mae hefyd yn awgrymu bod canolbwyntio ar y dyfodol, gyda’r cymorth cywir, yn rhoi cryfder a gwydnwch i lawer o blant o phobl ifanc sy’n dioddef trais a chamdriniaeth.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick
“Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick “Mae sicrhau bod plentyn a pherson ifanc yn derbyn y cymorth cywir cyn gynted â phosibl yn hanfodol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ein canfyddiadau’n dangos bod diffyg dealltwriaeth o gam-drin, yn ogystal â’r diwylliant treiddiol o feio’r dioddefwr sy’n bodoli o fewn sefydliadau allweddol, yn atal pobl ifanc ledled Cymru rhag estyn allan at y sefydliadau a’r bobl y dylen nhw fod â hyder ynddyn nhw i’w diogelu.
Rhaid i ni osod lleisiau a phrofiadau pobl ifanc yn ganolog. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gwasanaethau cymorth a chyngor arbenigol yn cael eu harfogi a’u hariannu’n gynaliadwy i ddeall a chefnogi pobl ifanc drwy’r cymunedau ar-lein hynny y maen nhw wedi’u nodi’n bersonol fel lleoedd y maen nhw’n debygol o droi atyn nhw.”
Dywedodd Jo Hopkins, Cyfarwyddwr y Ganolfan i fynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yng Nghymru, a gefnogodd y prosiect hwn
“Mae deall ble mae plant a phobl ifanc yn ceisio cymorth ac o ble maen nhw’n cael gwydnwch yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall cymorth gael ei deilwra i’w hanghenion. Mae’r ymchwil hwn yn dangos pwysigrwydd ffrindiau, hobïau a mannau ar-lein, a bod llai o ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig gan blant a phobl ifanc duon a lleiafrifedig. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at leisiau plant a phobl ifanc, a rhaid iddyn nhw gael eu clywed er mwyn i’w hanghenion gael eu bodloni o fewn y gymuned a thrwy wasanaethau.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn isod:
‘I trust them’ CYP Resilience Survey Report – English
‘I trust them’ CYP Resilience Survey Report – Cymraeg