Pecyn cymorth ar Hawliau Goroeswyr sy’n destun Rheolaeth Mewnfudo

Datblygwyd yr adnodd hwn mewn ymateb i’r angen a nodwyd gan aelodau Cymorth i Ferched Cymru a staff y Llinell Gymorth ar i holl weithwyr gwasanaethau VAWDASVllinell flaen ddeall hawliau goroeswyr sy’n destun rheolaeth fewnfudo, a’rdyletswyddau cyfatebol ar wasanaethau cyhoeddus.

Nid diben yr adnodd hwn yw cynnig cyngor ar sut i gefnogi goroeswyr VAWDASV sy’nfudwyr. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn annog gwasanaethau i sicrhau bodtrefniadau ar waith i fodloni gofynion penodol y rheini sydd â statws mewnfudoansicr, yn cynnwys drwy waith partneriaeth gyda darparwyr arbenigol lleol achenedlaethol ar gyfer menywod Du a lleiafrifol, gwasanaethau cyfieithu ac eraill.Mae hyn wedi’i wreiddio yn ein Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol.

Yn hytrach, yr hyn mae’r adnodd yn ei gynnig yw trosolwg cynhwysfawr o hawliaullety a chymorth goroeswyr sy’n fudwyr â statws mewnfudo ansicr; ynghyd â’r modd ihelpu gwasanaethau VAWDASV yn y trydydd sector i sicrhau bod pob goroeswr yngallu manteisio ar y llety a’r cymorth arbenigol y mae ganddynt hawl iddynt.

Noder fod cyfraith mewnfudo yn faes sy’n newid yn gyflym. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y pecyn hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi ym mis Mai 2021 ac mi chaiff ei diweddaru bob mis i adlewyrchu newidiadau perthnasol. Fodd bynnag, trwy gydol yr adnodd hwn cewch eich cyfeirio at wefannau sy’n darparu diweddariadau rheolaidd ar hawliau mewnfudwyr sydd âstatws mewnfudo ansicr, ac rydym yn argymell defnyddio rhain hefyd.

Rhan 1

Cyflwyniad i “reolaeth fewnfudo” sy’n cyfyngu ar fynediad unigolion atheuluoedd at gyllid cyhoeddus penodol. Ceir esboniad, ynghyd â nodiar bwy mae’n effeithio a pha gyllid cyhoeddus y cânt eu gwahardd rhagcael mynediad ato.

1. Cyflwyniad i reolaeth fewnfudo

Rhan 2

Nodir yr amrywiol lwybrau at lety a chymorth sydd ar gael i oroeswyrVAWDASV sy’n destun rheolaeth fewnfudo. Mae’r rhain yn cynnwys:cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol; y Consesiwn Trais DomestigDiymgeledd a’r Rheol Trais Domestig; y Mecanwaith AtgyfeirioCenedlaethol (i oroeswyr caethwasiaeth fodern a’r fasnach mewn pobl);a Chymorth Lloches y Swyddfa Gartref (i geiswyr lloches a cheiswyrlloches a wrthodwyd).

2. Ospiynau Cymorth – hawliau goroeswyr VAWDASV syn’n fudwyr

Rhan 3

Llythyrau templed at ddiben cyflwyno cais cychwynnol i’r gwasanaethaucymdeithasol am asesiad brys o anghenion gofal a chymorth; cyllidollety a chymorth ariannol interim; a gwneud penderfyniad cadarnaol igyllido anghenion gofal a chymorth goroeswyr VAWDASV.

Gweler ardal aelodau am lythyrau templed.

Rhan 4

Cyflwyniad i’r Prosiect ‘Pre-Action Protocol’, cynllun a redir gan Gwmni Cyfreithwyr Deighton Pierce Glynn sy’n darparu hyfforddiant a goruchwylio parhaus am ddim gan gyfreithiwr i wasanaethau llinell flaen i’w galluogi i baratoi llythyrau “protocol cyn dwyn achos” (pre-action protocol) ffurfiol i herio penderfyniadau a wneir gan neu ar ran y Llywodraeth (e.e. os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwrthod cynnal asesiad o anghenion).

4. Herio’r Gwasanaethau Cymdeithasol am wrthod asesu a,neu ddiwallu anghenion gofal a chymorth goroeswyr

Rhan 5

Llythyr templed ar gyfer herio’r Adran Gwaith a Phensiynau ar sail adran 3C Deddf Mewnfudo 1971. Gellir defnyddio’r llythyr hwn os yw’r Adran yn terfynu / yn bygwth terfynu mynediad goroeswr at fudd-daliadau (a gafwyd drwy’r Consesiwn Trais Domestig Diymgeledd) tra bo’r goroeswr yn dal i aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref ar gais am ganiatâd amhenodol i aros (indefinite leave to remain).

5. Llythyr Templed at yr Adran Gwaith a Phensiynau i Herio Budd-daliadau

Rhan 6

Rhestr o linellau cymorth, gwasanaethau, adnoddau a sefydliadau defnyddiol.

6. Llinellau Cymorth, Gwasanaethau a Sefydliadau Defnyddiol

Rhan 7

Yn y cyfeiriadur hwn ceir manylion am opsiynau cyllido gan sefydliadau elusennol a chyrff dyfarnu grantiau er mwyn i wasanaethau arbenigol VAWDASV allu darparu cymorth i oroeswyr nad oes cronfeydd cyhoeddus ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol i dalu rhent mewn lloches yn ogystal ag anghenion sylfaenol fel dillad, bwyd a theithio. Rhennir y cyfleoedd cyllid yn gronfeydd i unigolion a chronfeydd i sefydliadau.

7. Cyfeiriadur o Opsiynaucyllid

Rhan 8

Ymatebion i gwestiynau cyffredin (Frequently Asked Questions) a nodwyd yn ystod sgyrsiau gyda darparwyr arbenigol ac yn ystod amrywiol sesiynau hyfforddi’n ymwneud â phobl nad oes cronfeydd cyhoeddus ar gael iddynt.

8. Cwestiynau Cyffredin – FAQs

 

Caiff ein gwaith ei lywio’n barhaus gan brofiadau goroeswyr. Felly mae diolcharbennig yn ddyledus i oroeswyr trais a cham-drin sydd wedi defnyddio gwasanaethau lleol. Mae eu cyfrifon o’r rhwystrau y maent wedi’u hwynebu wrthgyrchu cefnogaeth a diogelwch oherwydd eu statws mewnfudo wedi helpu i dynnusylw at ba mor endemig yw’r camwahaniaethu sy’n eu hwynebu. Mae eu cryfder, eucanfyddiad a’u gwytnwch yn parhau i ysbrydoli ein gwaith i roi diwedd ar gam-drindomestig a phob math o drais yn erbyn menywod.