Pecyn Cymorth Ymgyrch Cefnogi Plant a Phobl Ifanc

Cyflwyniad 

Cyn Covid-19 cynhaliodd Cymorth i Ferched Cymru waith ymchwil i’r sefyllfa o ran y gwasanaethau arbenigol a oedd ar gael ledled Cymru i blant a phobl ifanc a oedd wedi profi pob math o gamdriniaeth, gan ddarganfod sector oedd â llawer rhy ychydig o adnoddau i ddiwallu’r angen. Ers mis Mawrth 2020 dim ond gwaethygu a wnaeth y sefyllfa honno, wrth i wasanaethau arbenigol ddefnyddio dulliau mwyfwy creadigol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, a llawer o’r rheini wedi colli’u mynediad at bob math o gymorth allanol arall.

Yn fyr, mae’n bwysicach nag erioed i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed ac i gymorth fod ar gael a dyna paham rydyn ni wedi creu Pecyn Cymorth Ymgyrchoedd Mae Plant yn Bwysig ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant 2020, a hynny fel rhan o ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru i gynyddu’r cyllid ar gyfer cymorth arbenigol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn medru cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Isod cewch chi ddolenni i adroddiadau, papurau briffio, taflenni ffeithiau, fideos, data a ffeithluniau y gallwch chi eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc am gymorth arbenigol ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant ar 21 Tachwedd a thu hwnt.

Data allweddol

Mae adroddiad data blynyddol aelodaeth Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer Cymru yn y flwyddyn 2019/20 yn dangos bod:

  • 3,312 o blant a phobl ifanc wedi derbyn cymorth gan wasanaethau arbenigol yn y gymuned.
  • 1154 o blant a phobl ifanc yn byw mewn llochesi brys ar ryw adeg y llynedd.
  • 6,661 o blant a phobl ifanc wedi mynychu sesiynau codi ymwybyddiaeth a gynhaliwyd yn eu hysgolion gan wasanaethau arbenigol ym maes trais yn erbyn menywod, cam-rin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Drwy gydol pandemig Covid-19 mae’n bosib rhagweld y bydd pob maes wedi gweld gweld cynnydd mewn cam-drin domestig, trais rhywiol, priodas dan orfod, yr hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd, cam-drin plant yn rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, camfanteisio a mathau eraill o drais yn erbyn menywod a merched.

Mae data Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn ystod pandemig COVID-19 yn dangos y canlynol:

  • Nododd 824 o alwyr a oedd yn profi camdriniaeth fod plant ganddyn nhw, sy’n golygu tua 1,575 o blant
  • Cynnydd o 275% mewn atgyfeiriadau diogelu o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Adroddiadau ac Adnoddau:

Mae adroddiad Cymorth i Ferched Cymru Mae Plant yn Bwysig 2019 yn dangos anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan VAWDASV a’r loteri cod post o ran darpariaeth arbenigol i’w cefnogi.

Mewn partneriaeth â BAWSO, Byw Heb Ofn a Canolfan ACEs Cymru, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi creu taflenni ffeithiau ar ddiogelu disgyblion rhag Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Mae’r ddolen isod yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc ar berthnasoedd iach a chymorth yn ystod COVID 19 yn seiliedig ar ein Cyfres o Wasanaethau Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch:

Posteri COVID i Blant a Phobl Ifanc

Ym mis Medi cynhaliodd Cymorth i Ferched Cymru a NSPCC Cymru drafodaeth ford gron ar y cyd â gweithwyr plant o wasanaethau arbenigol, awdurdodau lleol a chynrychiolwyr eraill. Mae’r papur briffio ar y cyd isod yn amlinellu’r materion allweddol a gafodd eu codi a’r argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill flaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan VAWDASV.

Gallwch lawrlwytho cyfres o ffeithluniau i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc yma: ffeithluniau ymgyrch plant a phobl ifanc

Fideos YouTube:

  1. Mae Lorna yn darllen cerdd a gyfansoddodd sy’n disgrifio poen a dryswch colli ei llais pan oedd yn blentyn a oedd yn byw gyda chamdriniaeth: https://www.youtube.com/watch?v=IbyM2dd_7pU
  2. Mae Sarah yn myfyrio ar y ffaith iddi golli ei diniweidrwydd pan gafodd ei phlentyndod ei gymryd oddi arni gan law ei drwgweithredwr: https://www.youtube.com/watch?v=iY95K8hV-kM.
  3. Mae Tannith yn cofio’i phrofiadau o fod mewn perthynas dreisgar ers yn 19 oed gyda dyn 15 mlynedd yn hŷn na hi: https://www.youtube.com/watch?v=oc4QLwSETEY.
  4. Mae Jenni yn cofio’r gamdriniaeth a brofodd yn ystod ei phlentyndod a’r hyn a gostiodd iddi ac mae’n hawlio’i rhyddid yn ôl: https://www.youtube.com/watch?v=GTAdc1sG_Dk .
  5. Mae Kara yn myfyrio ar effaith camdriniaeth yn ystod plentyndod, a’i harweiniodd i frwydro dros y freuddwyd o berchnogi ei chartref ei hun: https://www.youtube.com/watch?v=An4K7P91_fs.