40 Llais, 40 Mlynedd

Prosiect treftadaeth a enillodd nifer o wobrau oedd 40 Llais, 40 Mlynedd dan arweiniad Cymorth i Ferched Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Adrodd Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru yn ystod 2108-19.

Roedd y prosiect yn cydnabod bod atgofion, lleisiau a bywydau menywod yn aml yn cael eu hepgor o dreftadaeth genedlaethol. Mae’r prosiect 40 Llais, 40 Mlynedd wedi casglu a chadw lleisiau a straeon y mudiad i roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched yng Nghymru.

Gallwch chi ddarllen am y prosiect yma: https://storytelling.research.southwales.ac.uk/research/fortyvoices/

Bydd y straeon a gasglwyd yn y prosiect Deugain Llais, Deugain Mlynedd yn cynnig cyfle i ni fyfyrio ar bwy ydyn ni, o ble rydyn ni wedi dod a beth rydyn ni am fod…

Dr Emily Underwood-Lee, Research Fellow at the George Ewart Evans Centre for Storytelling

Ochr yn ochr â gwarchod y straeon hyn, rydyn ni hefyd wedi casglu gwrthrychau gan bobl a sefydliadau a fu’n rhan o’r mudiad.  Ymhlith y gwrthrychau roedd baneri protest, posteri a chrysau T a wnaed â llaw, taflenni o flynyddoedd a fu a mwy.

Cafodd y straeon a’r deunydd a gasglwyd eu harddangos yn arddangosfa deithiol 40 Llais, 40 Mlynedd, mewn arddangosfa derfynol lawn yn Amgueddfa Sain Ffagan ac mewn oriel ar-lein a gynhaliwyd gan Casgliad y Werin Cymru.

Roedd y prosiect hwn yn coffáu gwaith y menywod hyn dros y deugain mlynedd diwethaf, ond mae hefyd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r mudiad i ddileu trais yn erbyn menywod yng Nghymru, gan wella gwybodaeth gymunedol am y mathau hyn o gamdriniaeth a’n gwaith i’w atal. Roedden ni hefyd yn awyddus i annog myfyrdod ar ein blaenoriaethau fel mudiad ar gyfer y dyfodol drwy ein hymgyrch 40 y Dyfodol, wrth i ni weithio tuag at ein nod cyffredin o ddileu trais yn erbyn menywod unwaith ac am byth. Rhoddwyd Gwobr Effaith Prifysgol De Cymru 2019 i Dr Emily Underwood-Lee am Yr Effaith Orau ar Ddiwylliant, Treftadaeth a’r Celfyddydau.

Bellach, mae adroddiad terfynol ar y prosiect wedi’i gyhoeddi i grynhoi ei effaith, sy’n cynnwys y canlynol:

  • Cafodd straeon 26 o fenywod, a oedd yn allweddol ym mudiad rhyddid menywod a’r mudiad Cymorth i Ferched yng Nghymru, eu cofnodi.
  • Cafodd 46 o hanesion llafar a straen digidol gan actifyddion, goroeswyr a staff a oedd yn rhan o’r mudiad yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf, eu cofnodi.
  • Cyfrannodd 18 o oroeswyr.
  • 22 o straeon o weithdai adrodd straeon digidol.
  • Cafodd 46 o straeon digidol hygyrch eu rhannu ledled Cymru ac ar-lein drwy Casgliad y Werin Cymru, You Tube a Facebook.
  • Cafodd archif gynhwysfawr ei chreu yn Casgliad y Werin Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a fydd yn parhau i gael ychwanegiadau y dyfodol er mwyn datblygu’r casgliad ymhellach. Cafodd llinell amser, wedi’i chreu o adegau hanesyddol allweddol yn ymwneud â mudiad Cymorth i Ferched Cymru, ei chreu a’i rhannu.
  • Cefnogodd 68 o wirfoddolwyr y prosiect, ac roedd mwy na 100 niwrnod o wirfoddoli.
  • Aeth mwy na 5,648 o bobl yng Nghymru i’r arddangosfa deithiol a gwelodd mwy na 14,500 o bobl yr arddangosfa derfynol yn yr amgueddfa.
  • Aeth mwy na 20,000 o unigolion, disgyblion a myfyrwyr, grwpiau cymunedol, ac eraill i arddangosfeydd a darlithoedd yn eu cymunedau lleol ac mewn mannau addysgol, gan glywed straeon pwerus goroeswyr a dysgu am y rhesymau dros y mudiad, am yr heriau a oedd wedi eu hwynebu a’r hyn yr oeddent wedi’i gyflawni ar wahanol adegau dros y 40 mlynedd diwethaf, a chael gwell dealltwriaeth o pam mae angen y sector o hyd.
  • Cafodd tua 10,000 o unigolion wybodaeth am y prosiect drwy adnoddau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol.

Adroddiad 40 Llais, 40 Mlynedd

Rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth hael ein cyllidwyr sy’n caniatáu i’r prosiect hwn fynd rhagddo, gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri, Arian i Bawb Cronfa’r Loteri Fawr a Hanfod Cymru.