Datblygwyd yr adnodd hwn mewn ymateb i’r angen a nodwyd gan aelodau Cymorth i Ferched Cymru a staff y Llinell Gymorth ar i holl weithwyr gwasanaethau VAWDASVllinell flaen ddeall hawliau goroeswyr sy’n destun rheolaeth fewnfudo, a’rdyletswyddau cyfatebol ar wasanaethau cyhoeddus.
Nid diben yr adnodd hwn yw cynnig cyngor ar sut i gefnogi goroeswyr VAWDASV sy’nfudwyr. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn annog gwasanaethau i sicrhau bodtrefniadau ar waith i fodloni gofynion penodol y rheini sydd â statws mewnfudoansicr, yn cynnwys drwy waith partneriaeth gyda darparwyr arbenigol lleol achenedlaethol ar gyfer menywod Du a lleiafrifol, gwasanaethau cyfieithu ac eraill.Mae hyn wedi’i wreiddio yn ein Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol.
Yn hytrach, yr hyn mae’r adnodd yn ei gynnig yw trosolwg cynhwysfawr o hawliaullety a chymorth goroeswyr sy’n fudwyr â statws mewnfudo ansicr; ynghyd â’r modd ihelpu gwasanaethau VAWDASV yn y trydydd sector i sicrhau bod pob goroeswr yngallu manteisio ar y llety a’r cymorth arbenigol y mae ganddynt hawl iddynt.
Rhan 1
Cyflwyniad i “reolaeth fewnfudo” sy’n cyfyngu ar fynediad unigolion atheuluoedd at gyllid cyhoeddus penodol. Ceir esboniad, ynghyd â nodiar bwy mae’n effeithio a pha gyllid cyhoeddus y cânt eu gwahardd rhagcael mynediad ato.
1. Cyflwyniad i reolaeth fewnfudo
Rhan 2
Nodir yr amrywiol lwybrau at lety a chymorth sydd ar gael i oroeswyrVAWDASV sy’n destun rheolaeth fewnfudo. Mae’r rhain yn cynnwys:cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol; y Consesiwn Trais DomestigDiymgeledd a’r Rheol Trais Domestig; y Mecanwaith AtgyfeirioCenedlaethol (i oroeswyr caethwasiaeth fodern a’r fasnach mewn pobl);a Chymorth Lloches y Swyddfa Gartref (i geiswyr lloches a cheiswyrlloches a wrthodwyd).
2. Ospiynau Cymorth – hawliau goroeswyr VAWDASV syn’n fudwyr
Rhan 3
Llythyrau templed at ddiben cyflwyno cais cychwynnol i’r gwasanaethaucymdeithasol am asesiad brys o anghenion gofal a chymorth; cyllidollety a chymorth ariannol interim; a gwneud penderfyniad cadarnaol igyllido anghenion gofal a chymorth goroeswyr VAWDASV.
Rhan 4
Cyflwyniad i’r Prosiect ‘Pre-Action Protocol’, cynllun a redir gan Gwmni Cyfreithwyr Deighton Pierce Glynn sy’n darparu hyfforddiant a goruchwylio parhaus am ddim gan gyfreithiwr i wasanaethau llinell flaen i’w galluogi i baratoi llythyrau “protocol cyn dwyn achos” (pre-action protocol) ffurfiol i herio penderfyniadau a wneir gan neu ar ran y Llywodraeth (e.e. os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwrthod cynnal asesiad o anghenion).
Rhan 5
Llythyr templed ar gyfer herio’r Adran Gwaith a Phensiynau ar sail adran 3C Deddf Mewnfudo 1971. Gellir defnyddio’r llythyr hwn os yw’r Adran yn terfynu / yn bygwth terfynu mynediad goroeswr at fudd-daliadau (a gafwyd drwy’r Consesiwn Trais Domestig Diymgeledd) tra bo’r goroeswr yn dal i aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref ar gais am ganiatâd amhenodol i aros (indefinite leave to remain).
5. Llythyr Templed at yr Adran Gwaith a Phensiynau i Herio Budd-daliadau
Rhan 6
Rhestr o linellau cymorth, gwasanaethau, adnoddau a sefydliadau defnyddiol.
6. Llinellau Cymorth, Gwasanaethau a Sefydliadau Defnyddiol
Rhan 7
Yn y cyfeiriadur hwn ceir manylion am opsiynau cyllido gan sefydliadau elusennol a chyrff dyfarnu grantiau er mwyn i wasanaethau arbenigol VAWDASV allu darparu cymorth i oroeswyr nad oes cronfeydd cyhoeddus ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol i dalu rhent mewn lloches yn ogystal ag anghenion sylfaenol fel dillad, bwyd a theithio. Rhennir y cyfleoedd cyllid yn gronfeydd i unigolion a chronfeydd i sefydliadau.
7. Cyfeiriadur o Opsiynaucyllid
Rhan 8
Ymatebion i gwestiynau cyffredin (Frequently Asked Questions) a nodwyd yn ystod sgyrsiau gyda darparwyr arbenigol ac yn ystod amrywiol sesiynau hyfforddi’n ymwneud â phobl nad oes cronfeydd cyhoeddus ar gael iddynt.
8. Cwestiynau Cyffredin – FAQs
Caiff ein gwaith ei lywio’n barhaus gan brofiadau goroeswyr. Felly mae diolcharbennig yn ddyledus i oroeswyr trais a cham-drin sydd wedi defnyddio gwasanaethau lleol. Mae eu cyfrifon o’r rhwystrau y maent wedi’u hwynebu wrthgyrchu cefnogaeth a diogelwch oherwydd eu statws mewnfudo wedi helpu i dynnusylw at ba mor endemig yw’r camwahaniaethu sy’n eu hwynebu. Mae eu cryfder, eucanfyddiad a’u gwytnwch yn parhau i ysbrydoli ein gwaith i roi diwedd ar gam-drindomestig a phob math o drais yn erbyn menywod.