Prosiect Gofyn i fi

Rydym ni ar hyn o bryd yn cynnig hyfforddiant Gofyn i Fi yng de Cymru.

Ein cwrs wyneb yn wyneb nesaf yw:

  • Dydd Mercher 11 Rhagfyr (10-4) – Chymorth i Ferched Thrive, Port Talbot

Ein cwrs ar-lein nesaf yw:

  • Dydd Llun 17 a Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025 (6-9pm)

I gofrestru rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf ac yn byw, astudio, gweithio neu wirfoddoli yn Ne Cymru.

Diddordeb mewn ymuno â Gofyn i fi?

 

Yn aml, cymunedau yw’r cyntaf i wybod am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ond nid yw’r ffordd rydyn ni’n ymateb bob amser yn ddefnyddiol. Mae cynllun Gofyn i Fi am newid hynny.

Rydyn ni am helpu i ddileu cam-drin drwy gynorthwyo cymunedau i ymateb yn well i oroeswyr ond hefyd i fynd ati’n fwriadol i ddod o hyd i ffyrdd o herio mythau, agweddau a stereoteipiau di-fudd sy’n galluogi cam-drin ac yn ei normaleiddio.

Rydym ni’n gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus am ddim sy’n helpu aelodau’r gymuned i gychwyn sgyrsiau am gam-drin, i wybod ble mae cymorth ar gael, i rannu eu gwybodaeth gydag eraill ac i wybod sut i ymateb i unrhyw un sy’n rhannu eu profiadau o gam-drin.

Yn dilyn y cwrs, caiff aelodau o’r gymuned dreulio cymaint neu gyn lleied o amser ag y maen nhw’n ei ddymuno ar hyn – y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eu bod yn cwblhau holiadur byr bob mis i roi gwybod i ni beth maen nhw wedi bod yn ei wneud. I gofrestru ar gyfer y cwrs, rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn ac yn byw, astudio, gweithio, neu’n gwirfoddoli mewn ardal sy’n cael ei hariannu (gweler “Pwy sy’n cael cymryd rhan?” isod). Nodwch os gwelwch yn dda na allwn dderbyn ceisiadau o’r tu allan i Cymru.

I ddarllen am brofiad Franca o fod yn rhan o gynllun Gofyn i Fi, cliciwch isod:

 

Profiad Franca o fod yn rhan o gynllun Gofyn i Fi

Cwestiynau Cyffredin

Ariennir gan Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.