Mae’r fideo hwn ar gael mewn llu o ieithoedd gwahanol – cliciwch yma i wylio.
Siaradwch â rhywun yn gyfrinachol drwy wasanaeth sgwrsio byw Byw Heb Ofn
- Mae sgwrs fyw ar gael 24 awr.
- Gallwch gael cymorth drwy ein gwasanaeth ebost uniongyrchol: [email protected]
- Gallwn eich helpu yn Gymraeg, Saesneg ac unrhyw ieithoedd eraill gan ddefnyddio LanguageLine.
- Gall defnyddwyr ffôn destun gysylltu â ni drwy Relay UK ar 1800108088010800.
- Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Byw heb Ofn 24/7 drwy decstio ar 07860 077333.
- SignLive: ‘Live Fear Free’.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.
Os ydych chi wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu drais yn erbyn menywod, neu’n pryderu am ffrind neu berthynas sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin, gallwch ein ffonio ni – mae am ddim, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Caiff unrhyw un sy’n galw fod yn siŵr y byddan nhw’n cael ymateb cyfeillgar, cefnogol gan ein tîm profiadol, sy’n gallu deall a thrafod eich pryderon a chynnig cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth. Fyddwn ni ddim yn eich beirniadu, nac yn eich beio chi, a does dim rhaid i chi fod yn barod i weithredu.
Ffoniwch ni:
- os ydych chi’n awyddus i siarad am brofiadau o gam-drin nawr neu yn y gorffennol
- os ydych chi’n teimlo’n ofnus a bod eich partner yn eich rheoli
- os ydych chi’n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu a ddim yn gwybod beth i’w wneud
- os ydych chi’n teimlo’n anniogel, dan bwysau neu’n ofnus
- os ydych chi wedi bod, neu yn teimlo y gallech chi fod mewn perygl o gael eich gorfodi i briodi yn erbyn eich ewyllys
- os oes angen i chi adael perthynas o gam-drin ac angen llety diogel, brys ar draws Cymru a’r DU
- os ydych chi’n meddwl am adael y diwydiant rhyw ac angen help a chefnogaeth
- os yw eich teulu neu’r gymuned ehangach yn eich cyhuddo o ddod â ‘gwarth’ neu ‘amarch’ ar unigolion, y teulu neu’r gymuned ehangach
- os ydych chi wedi cael arian, cyffuriau, rhoddion neu rywle i aros ac wedyn yn dod dan bwysau i gael rhyw neu wneud pethau dydych chi ddim yn awyddus i’w gwneud
- os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ynysu ac yn ofnus ac yn awyddus i siarad am eich pryderon ac edrych ar ba opsiynau sydd ar gael
Gallwn ni wrando, cynnig cymorth a chefnogaeth, a rhoi gwybodaeth i chi am amrywiaeth o opsiynau a gwasanaethau yn eich ardal, sydd wedi’u cynllunio i helpu i gwrdd â’ch anghenion, gan gynnwys:
- Llety Argyfwng
- Cwnsela
- Gwasanaethau cymorth lleol
- Hawliau Lles a Budd-daliadau
- Materion Cartrefu
- Materion Cyfreithiol
- Lles Plant
- Rhaglenni i Gyflawnwyr Trais
- Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw
Ni fydd galwadau i’r llinell gymorth i’w gweld ar filiau ffôn llinell tir.
Mae pob galwad yn gyfrinachol. Os bydd yn angenrheidiol i ni rannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill, byddwn ni’n cael eich cydsyniad llawn chi yn gyntaf. Yr eithriadau i hyn yw os yw eich bywyd chi mewn perygl neu os oes plentyn mewn perygl. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai’r awdurdodau’n cael eu hysbysu i sicrhau eich diogelwch a’ch lles chi a’ch plant.
Rydyn ni yma i wrando
-
Dwi i wedi galw’r llinell gymorth pan dwi wedi bod ar ben fy hun gyda’r nos, pan dwi jyst yn gorfod siarad â rhywun am gymaint ro’n i’n brifo. Maen nhw wedi helpu i newid fy mywyd i.
-
Dim ond dros y flwyddyn ddiwethaf dwi i wedi gallu dechrau delio â’r boen. Dechreuodd gyda galwad i’r llinell gymorth. Siaradais i gyda’r llinell gymorth, a helpon nhw fi i gysylltu â fy ngwasanaethau lleol. Gwrandawodd hi arna i ac roedd hi’n deall. Fe dreuliodd hi amser gyda fi ac ro’n i’n teimlo’n ddigon dewr i ddweud wrthi beth oedd wedi digwydd.
-
Cymorth eithriadol – mae’n rhoi cyfle i fi gael fy nghlywed. Mae gen i lais nawr.
Deunyddiau hyrwyddo
Gall Cymorth i Ferched Cymru roi eitemau hyrwyddo i chi a’ch sefydliad ar gyfer Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae’r deunyddiau hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r llinell gymorth sy’n darparu gwybodaeth a chymorth hanfodol i oroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod.
Cliciwch yma i archebu blwch sampl o ddeunyddiau Byw Heb Ofn.
Am y trydydd tro, cafodd y safon ansawdd genedlaethol gydnabyddedig, sy’n diffinio ac yn achredu arferion gorau mewn gwaith llinell gymorth, ei dyfarnu i Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.