Gweithwyr Proffesiynol ag Ymddiriedaeth

Mae Cymorth i Ferched Cymru a Respect wedi datblygu cwrs hyfforddi deuddydd cwbl integredig i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn gallu adnabod arwyddion Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn well, ymateb yn briodol i ddatgeliadau ac atgyfeirio goroeswyr a chyflawnwyr i wasanaethau cymorth arbenigol.

Dyddiadau ein hyfforddiant nesaf:

  • 25th & 27th Mehefin – 9:30-1:30pm
  • 11th & 13th Medi – 9:30-1:30pm
  • 25th & 29th Tachwedd – 9:30-1:30pm
  • 18th & 19th Chwefror – 9:30-1:30pm

Gweithiwr Proffesiynol ag Ymddiriedaeth, i weithwyr Plant a Phobl Ifanc

Ydych chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trais a cham-drin? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cynorthwyo i ddarparu cymorth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau ac a gaiff ei lywio gan drawma, mewn amrywiol leoliadau.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  •  Deall rôl gweithiwr proffesiynol ag ymddiriedaeth i blant a phobl ifanc.
  • Adnabod y ffurfiau niferus o drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol y gallai pobl ifanc eu profi.
  • Ymateb yn fwy effeithiol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin ac sydd wedi niweidio pobl eraill, gan ddefnyddio cymorth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau ac a gaiff ei lywio gan drawma.
  • Deall y defnydd ymarferol o ddamcaniaeth a arweinir gan anghenion, sy’n seiliedig ar gryfderau, a gaiff ei lywio gan drawma ac sy’n groestoriadol yn eich lleoliad.

 

I gael rhagor o wybodaeth cofrestrwch yma: