Ein haelodau

Yn Cymorth i Ferched Cymru, rydym ni’n rhan o ffederasiwn o bedair gwlad, sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.  Mae gennym wasanaethau arbenigol ledled Cymru yn rhan o’n haelodaeth.  Ar hyn o bryd mae 20 o aelod-wasanaethau ledled Cymru sy’n cynnig cymorth uniongyrchol i oroeswyr cam-drin, gan gynnwys treisio, trais a chamfanteisio rhywiol, cam-drin domestig, priodas dan orfod, yr hyn a elwir yn drais ‘ar sail anrhydedd’, aflonyddu a stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) a masnachu pobl/ caethwasiaeth fodern.  Gallwch weld y rhestr o wasanaethau lleol sy’n rhan o’n haelodaeth isod.

Os ydych chi’n chwilio am gymorth, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24/7 am ddim ar 0808 801 0800 neu drwy neges destun: 07458 143 415, ebost: info@livefearfreehelpline.wales a gwe-sgwrs: https://gov.wales/live-fear-free/domestic-abuse-wales.

Os ydych yn un o’n haelodau, ewch at adran ein haelodau os gwelwch yn dda.

 

Mae’r gwasanaethau arbenigol hyn yn darparu cymorth sy’n achub ac yn newid bywydau a gwaith ataliol fel rhan o rwydwaith o ddarpariaeth drwy’r DU.

Mae cymorth ar gael i fenywod, plant a phobl ifanc, a dynion ar draws holl gymunedau Cymru, gan gynnwys cymunedau Du a lleiafrifol ethnig, goroeswyr sy’n anabl, neu sy’n hŷn, sy’n uniaethu’n lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, ac i’r rhai sy’n arfer crefyddau a chredoau.

Gall gwasanaethau arbenigol gynnig gwybodaeth, cymorth ymarferol, eiriolaeth, cwnsela a chymorth therapiwtig, cymorth unigol neu grŵp, a chymorth i gael mynediad i dai diogel fel cymorth lloches.

Mae gan lawer o’n haelodau arbenigol hefyd ganolfannau gwybodaeth lle gallwch alw heibio a sgwrsio am eich sefylla neu sefyllfa rhywun rydych chi’n ei adnabod. Mae gwasanaethau arbenigol yn cynnig cymorth diogel i fenywod yn unig, a gallant eich helpu gydag effaith cam-drin, a’i ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys cyngor cyfreithiol, tai neu fudd-daliadau lles, cymorth drwy’r llysoedd neu achosion diogelu, mynediad at wasanaethau iechyd, cymorth mewn perthynas ag iechyd meddwl neu ddefnyddio sylweddau, a chymorth i wella ar ôl camdriniaeth ac ailadeiladu eich bywyd.

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, gallwch chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol isod, neu gysylltu â Llinell Byw Heb Ofn am ddim.

Ein haelodau