Pam rydyn ni'n bodoli?
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/04/Impact-Report-Graphics-9.0-CYM.jpg)
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn bodoli oherwydd bod byd heb drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV) yn bosibl, a bydd yn cymryd ymdrech ar y cyd i’w gyflawni.
Mae ein gwaith yn ymwneud â chysylltu’r dotiau rhwng goroeswyr, gwasanaethau cymorth, cymunedau, sefydliadau a llywodraethau.
Rydym ni’n sefydliad ffeministaidd croestoriadol. Mae ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn seiliedig ar ymrwymiadau i hawliau dynol, gwrth-wahaniaethu a rhyddid rhag gormes.
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/8-1.jpg)
Rydym ni’n rhan o fudiad rhyngwladol a ffederasiwn y DU o bedwar chwaer-sefydliad, ond rydym ni’n annibynnol, yn ymreolaethol ac yn canolbwyntio ar Gymru.
Mae’r frwydr i ddod â VAWDASV i ben yng Nghymru yn unigryw, oherwydd bod ei hysgogiadau gwleidyddol yn cynnwys pwerau datganoledig ac heb eu datganoli.
Rydym ni’n bodoli i sicrhau bod gan oroeswyr a gwasanaethau arbenigol yng Nghymru lais ar bob lefel o lywodraeth.
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/1.jpg)
Rydyn ni wir yn sefydliad Cymru gyfan. Mae ein 20 aelod-sefydliad a’n llinell gymorth Byw Heb Ofn yn rhoi cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor uniongyrchol i oroeswyr VAWDASV.
Rydym ni’n bodoli i sicrhau bod goroeswyr ledled Cymru yn cael y cymorth cywir pan fyddan nhw ei angen.
Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod gan bob un o’n haelodau fynediad cyfartal at adnoddau a chyllid, a chyfle cyfartal i ddylanwadu ar y polisïau sy’n effeithio ar eu gwaith.
Beth ydyn ni'n ei wneud?
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2022/10/Welsh-Womens-Aid-Still-We-Rise-5-Year-Strategy.jpg)
Dechreuodd ein gwaith yng Nghymru dros 40 mlynedd yn ôl. Eleni oedd blwyddyn olaf ond un ein strategaeth, ‘Still We Rise‘, strategaeth sy’n seiliedig ar yr arbenigedd a ddatblygwyd dros y cyfnod hwnnw.
Mae heriau tirwedd ôl-bandemig ac argyfwng brathog costau byw wedi bod yn enfawr, ond mae ein nodau’n aros yr un fath: atal camdriniaeth, darparu gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth â goroeswyr, gwasanaethau arbenigol a sefydliadau eraill.
Ein nodau strategol
Ein Heffaith yn 2022/23
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi ymrwymo i weledigaeth lle mae merched a phlant yn byw’n rhydd o gam-drin domestig, trais rhywiol, a phob math o drais yn erbyn menywod, a thrwy wneud hynny sicrhau annibyniaeth, rhyddid a rhyddhad rhag gormes.
Wrth i ni edrych yn ôl ar y flwyddyn 2022-2023, rwy’n falch o rannu gyda chi faint o waith mae WWA wedi’i wneud, ond yn bwysicach na hynny faint o gynnydd rydyn ni wedi’i wneud tuag at y nod cyffredinol hwn a faint o effaith rydyn ni wedi’i chael. Gall pob gweithgaredd, pan fyddwn yn edrych arno ar ei ben ei hun, ymddangos yn bitw, heb fawr o siawns o droi’r llanw ar genedlaethau o orthrwm, ond wrth edrych arnyn nhw gyda’i gilydd nid yw’r gweithgareddau hyn yn bitw nac yn weithgaredd unigol ond yn don, symudiad a chynnydd tuag at newid sydd wir yn para. Byddwch yn gweld y nifer o ffyrdd yr ydym ni wedi gweithio gydag eraill gan gynnwys ein 20 aelod anhygoel sy’n darparu cymorth arbenigol sy’n achub bywydau bob dydd; mae ein rhwydwaith o oroeswyr ffyrnig o dros 100 o aelodau sydd am sicrhau bod yr hyn y gwnaethon nhw ei ddysgu ar eu taith yn cael ei ddefnyddio i lywio’n well i’r goroeswr nesaf ar y llwybr a phartneriaid ehangach, y rhai sy’n rhannu ein dyhead am fyd sy’n rhydd o gamdriniaeth.
Sara Kirkpatrick
Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru
Rwy’n falch iawn o rannu ein hadroddiad effaith blynyddol gyda chi sy’n arddangos y gwaith gwych yn 2022-23 ledled Cymru. Mae’n fraint fawr i mi fod wedi bod yn Gadeirydd WWA ers mis Tachwedd 2021 ac rwy’n cael fy syfrdanu’n gyson gan faint ac ansawdd y gwaith a wneir bob dydd. Ein nod clir yw gwella bywyd i bob merch yng Nghymru, merched ag ystod eang o nodweddion personol a phrofiadau bywyd, merched sy’n ymgysylltu â ni neu ein haelodau a’r rhai nad oes ganddynt unrhyw syniad ein bod ni’n bodoli. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni’r gwaith a nodir yn yr adroddiad hwn. Mae gennym ni lawer o frwydrau i’w hymladd (a’u hennill) o hyd ond dyma gyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed.
Kirsty Palmer
Cadeirydd, Bwrdd Ymddiriedolwyr
Beth sydd nesaf?
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/3-1.jpg)
Wrth i ni ddod i ddiwedd ein strategaeth bum mlynedd, gwyddom ein bod yn wynebu dyfodol anodd o’n blaenau, gan fod y galw ar wasanaethau yn parhau i fod yn uchel ac mae cynaliadwyedd cyllido gwasanaethau arbenigol wedi cyrraedd pwynt argyfwng.
Mae ein hymroddiad i ddileu VAWDASV yn parhau, a byddwn yn parhau i edrych ymlaen wrth i ni barhau â’n hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r materion allweddol sy’n ein hwynebu, i gynrychioli gwasanaethau arbenigol Cymru hyd eithaf ein gallu a sicrhau bod lleisiau goroeswyr bob amser yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith.
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/4-1.jpg)
Bydd angen cefnogaeth bellach gan y llywodraeth, gan y gymuned ac unigolion i gyflawni ein nod yn y pen draw o ddod â VAWDASV i ben, ond credwn fod hyn yn bosibl.
Ffyrdd o ymuno â'n mudiad
![](https://welshwomensaid.org.uk/wp-content/uploads/2024/01/5-1.jpg)
Os ydych chi’n rhannu ein nodau a’n gwerthoedd, mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan: